Mae Chandika Hathurusingha, prif hyfforddwr tîm criced Sri Lanca, wedi beirniadu llain Gerddi Sophia ar ôl i’w dîm guro Afghanistan o 34 rhediad yng Nghwpan y Byd.

Tarodd Kusal Perera 78, er i Sri Lanca gael eu bowlio allan am 201 mewn 36.5 pelawd mewn gornest a gafodd ei chwtogi gan y glaw.

Ar ôl oedi o ychydig oriau, cafodd nod Afghanistan ei haddasu i 187 mewn 41 pelawd, ond roedd eu batio’n wan drwyddi draw.

Cawson nhw eu bowlio allan am 152 wrth i Kusal Perera orffen gyda phedair wiced am 31, ei ffigurau gorau erioed.

“Mae’r llain yn un anodd i fatio arni,” meddai Chandika Hathurusingha.

“Dydi’r cae ddim yn addas ar gyfer criced undydd, yn fy marn i. Mae pob llain arall yn edrych yn fwy brown neu wyn, ond mae hon yn wyrdd.

“Unwaith ddechreuon ni arni, roedd hi’n hawdd batio, ond roedd dechrau’n anodd.”

Dechrau da cyn colli wicedi

Er i Afghanistan alw’n gywir, Sri Lanca fanteisiodd ar hynny yn gynnar yn y gêm ar ôl cael eu gwahodd i fatio ar lain sydd â digon o gymorth ynddi i’r bowlwyr.

Wrth wynebu bowlio llac Dawlat Zadran a Hamid Hassan, chafodd Dimuth Karunarathne a Kusal Perera fawr o drafferth, wrth iddyn nhw wibio i’r hanner cant fel tîm ar ôl 4.5 pelawd, gan gynnwys 12 o rediadau oddi ar belenni llydan.

Clatsiodd Sri Lanca eu ffordd i 79-0, y sgôr gorau oddi ar y cyfnod clatsio cyntaf yng Nghwpan y Byd hyd yn hyn.

Cymerodd hi 13.1 pelawd i Afghanistan gipio’u wiced gyntaf, cyn i hanner canred Kusal Perera ddod oddi ar 42 o belenni, gan gynnwys saith pedwar, mewn pelawd lle’r oedd y capten Gulbadin Naib wedi ildio 19 o rediadau, gan gynnwys saith rhediad oddi ar belenni anghyfreithlon, ac wyth oddi ar ergydion rhydd.

Wiced ar ôl wiced cyn y glaw

Ond fe wnaeth Afghanistan droi’r gêm ar ei phen yn llwyr, gyda saith wiced am 36 rhediad mewn 11 pelawd, gan gynnwys tair wiced mewn pelawd i Mohammad Nabi.

Byddai Sri Lanca wedi bod yn hapus i weld y glaw yn dod am 1.08yp, gyda’r sgôr yn 182 am wyth ar ôl 33 pelawd.

Ar ôl i’r gêm ddechrau eto am 4 o’r gloch, a’r ornest bellach yn 41 pelawd yr un, ymosododd Suranga Lakmal o’r dechrau’n deg, ond collodd Sri Lanca eu dwy wiced olaf o fewn 3.5 pelawd.

Roedd Sri Lanca, felly, wedi cael eu bowlio allan am 201 mewn 36.5 pelawd.

Cwrso, ond colli wicedi

Yn sgil y drefn DLS, sy’n addasu’r nod o ganlyniad i’r tywydd, roedd angen i Afghanistan gwrso 187 mewn 41 pelawd, ond collon nhw bum wiced mewn naw pelawd.

Daeth yr agorwyr Mohammad Shahzad a Hazratullah Zazai allan yn ymosodol, a chlatsio nifer o ergydion i’r ffin yn y pelawdau agoriadol.

Ond ar ôl i Hazratullah Zazai gael ei ollwng gan Kusal Mendis, llwyddodd y capten Dimuth Karunaratne ddal ei afael ar y bêl i waredu Mohammad Shahzad oddi ar fowlio Lasith Malinga am saith yn y pumed pelawd.

Collodd Afghanistan eu hail wiced pan ergydiodd Rahmat Shah i Angelo Mathews yn y slip oddi ar fowlio Isuru Udana am ddau, a’r sgôr yn 42 am ddwy toc cyn diwedd y cyfnod clatsio.

Cwympodd eu trydedd wiced bum pelen yn ddiweddarach pan gipiodd Thisara Perera chwip o ddaliad yn safle’r goes fain bell oddi ar fowlio Nuwan Pradeep am 30.

Roedden nhw’n 57 am bedair ar ôl 12.5 pelawd, wedi i Hashmatullah Shahidi gael ei ddal yn uchel gan y wicedwr Kusal Perera, a chwympodd y bumed wiced ar 57, pan gafodd Mohammad Nabi ei fowlio gan Thisara Perera.

Partneriaeth gadarn

Gyda gobeithion Afghanistan yn pylu, fe fu’n rhaid iddyn nhw droi at y capten Gulbadin Naib a Najibullah Zadran.

Adeiladon nhw bartneriaeth o hanner cant mewn 11 pelawd, ond roedd y nod yn un sylweddol o hyd, er eu bod nhw’n gyfartal â’r hyn roedd angen iddyn nhw ei sgorio am rannau helaeth o’r bartneriaeth.

Ond daeth y bartneriaeth o 64 i ben gyda’r sgôr yn 121, pan darodd Nuwan Pradeep goes Gulbadin Naib o flaen y wiced am 23.

Dechrau’r diwedd

Collodd Afghanistan eu seithfed wiced yn fuan wedyn, wrth i Rashid Khan gael ei fowlio gan Nuwan Pradeep, wrth iddo gipio’i bedwaredd wiced, a’r sgôr yn 123.

Roedden nhw’n 136 am wyth ym mhelawd rhif 31 pan gafodd Dawlat Zadran ei fowlio gan Lasith Malinga.

Cwympodd y nawfed wiced pan gafodd Najibullah Zadran ei redeg allan, a’r sgôr yn 145, a daeth yr ornest i ben pan gafodd Hamid Hassan ei fowlio gan Lasith Malinga.