Fe sgoriodd Billy Root 229, ei sgôr gorau erioed a’r sgôr gorau erioed gan chwaraewr Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton, wrth i Forgannwg fynd gam yn nes at fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth yn Northampton.

Mae’n golygu y bydd ganddyn nhw fantais o 243 ar ddechrau’r trydydd diwrnod, a’r Saeson yn wynebu’r posibilrwydd o golli o fatiad a mwy o fewn tridiau.

Roedd batiad Billy Root wedi para chwech awr namyn munud, ar ôl iddo wynebu 252 o belenni, a tharo 30 pedwar ac un chwech.

Fe ddaeth hefyd ar y diwrnod y tarodd ei frawd Joe, capten Lloegr, ganred yng Nghwpan y Byd yn erbyn Pacistan.

Ac mae’n curo record arwyddocaol yn hanes y sir, sef y sgôr gorau erioed i Forgannwg yn erbyn Swydd Northampton – record a gafodd ei gosod gan Roy Fredericks (228 heb fod allan) yn Abertawe yn 1972, ar y diwrnod y cafodd Orielwyr San Helen eu sefydlu.

Mae hefyd yn golygu bod Billy Root yn bymthegfed ar y rhestr o brif sgorwyr Morgannwg erioed.

Wicedi cynnar i’r Saeson

Ar ôl bowlio’r Saeson allan am 209 ar y diwrnod cyntaf, dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar bump heb golli wiced ond roedden nhw’n 20 am dair o fewn dim o dro wrth i Ben Sanderson waredu Nick Selman, Marnus Labuschagne a’r capten David Lloyd o fewn 12.4 pelawd.

Ond pan ddaeth Billy Root i’r llain i ymuno â Charlie Hemphrey (37), ychwanegon nhw 83 at y cyfanswm am y bedwaredd wiced cyn i Ben Sanderson gipio’i bedwaredd wiced pan darodd Charlie Hemphrey ergyd i ddwylo diogel Alex Wakely.

Roedden nhw’n 120 am bump pan darodd Kiran Carlson ergyd i Ricardo Vasconcelos yn y slip oddi ar fowlio Nathan Buck am saith.

Billy Root yn achub y dydd

Bryd hynny, byddai Morgannwg wedi bod yn ddiolchgar bod Billy Root wedi goroesi cyfle am ddaliad yn y slip gan yr un maeswr heb ei fod e wedi sgorio.

Aeth y batiwr yn ei flaen i achub Morgannwg gyda’i drydydd canred i’r sir yn y Bencapwriaeth, a’i ail yn erbyn Swydd Northampton y tymor hwn, yn dilyn ei sgôr o 126 yng Nghaerdydd ar ddechrau’r tymor.

Daeth cyfle arall i Swydd Northampton gipio’r wiced fawr pan oedd y batiwr ar 90, wrth i Nathan Buck fethu â chasglu’r bêl cyn ei thaflu at y wiced i’w redeg e allan.

Cyrhaeddodd ei ganred oddi ar 121 o belenni, ar ôl taro 16 pedwar, ac fe ddyblodd ei sgôr ar ôl 230 o belenni. Erbyn hynny roedd e wedi taro 26 pedwar ac un chwech.

Roedd ei bartneriaeth gyda Dan Douthwaite (44) yn werth 87 yn y pen draw am y chweched wiced, cyn i’w bartner roi daliad i Luke Procter ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr Rob Keogh, a’r sgôr yn 207 am chwech.

Daeth partneriaeth allweddol arall i’r batiwr gyda’r wicedwr Tom Cullen, a sgoriodd 63, ei sgôr gorau erioed, mewn partneriaeth o 167 am y seithfed wiced, sy’n record i’r sir am y wiced honno i Forgannwg yn erbyn Swydd Northampton.

Ond cafodd Tom Cullen gael ei ddal gan y wicedwr Adam Rossington oddi ar fowlio Luke Wood.

Ychwanegodd Marchant de Lange (36) a Billy Root 74 am yr wythfed wiced, cyn i Billy Root, o’r diwedd, golli ei wiced wrth gael ei ddal gan Temba Bavuma oddi ar fowlio Luke Procter am 229.

Marchant de Lange yn clatsio

Daeth batiad ymosodol Marchant de Lange i ben pan gafodd ei ddal gan Luke Wood oddi ar fowlio Luke Procter am 36, ar ôl iddo daro pedwar pedwar a dau chwech.

Mae’r ddau fatiwr, Michael Hogan a Timm van der Gugten yn dechrau’r trydydd diwrnod heb fod y naill na’r llall wedi sgorio.

Sgorfwrdd