Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd Mitch Marsh yn ymuno â’r sir ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Mae’n ymuno â’i frawd Shaun, ac fe fydd e’n glanio yng Nghymru ar ddiwedd taith tîm ‘A’ Awstralia.
Ac yntau’n brofiadol mewn gemau ugain pelawd ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys yr IPL yn India a’r Big Bash yn ei famwlad, mae’r chwaraewr amryddawn rhyngwladol wedi ymddangos mewn 95 o gemau dros ei wlad, gan gynnwys 11 gêm ugain pelawd.
Mae e wedi taro saith hanner canred ar gyfartaledd o fwy na 30 mewn gemau ugain pelawd, ac mae ganddo fe gyfradd sgorio o fwy na 120.
Fel bowliwr, mae e wedi cipio 43 o wicedi ar gyfartaledd o 27.48, a’i ffigurau gorau yw pedair wiced am chwech rhediad.
Gobeithio am dlws
“Dw i wedi cyffroi’n lân o gael y cyfle i ymuno â Morgannwg, meddai.
“Dw i wedi clywed pethau da am y clwb a dw i bob amser yn anelu i wella a herio fy hun fel cricedwr, felly bydd cael chwarae yn y Vitality Blast yn brofiad da iawn.
“Mae Shaun yn amlwg wedi dweud tipyn wrtha i am y clwb, a pha mor gyfeillgar yw’r staff, y chwaraewyr a’r hyfforddwyr, felly dw i’n edrych ymlaen at gael dechrau.
“Mae tipyn o dalent yn y clwb ac maen nhw wedi gwneud yn dda dros y blynyddoedd diwethaf yn y gystadleuaeth, felly byddwn ni’n sicr yn anelu i gyrraedd y rowndiau olaf, a gobeithio cipio tlws.”
‘Y chwaraewr delfrydol’
“Mae’n wych cael arwyddo Mitch Marsh ar gyfer y Vitality Blast,” meddai Mark Wallace, cyfarwyddwr criced Morgannwg.
“Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael gafael ynddo fe ers sbel gan ein bod ni’n credu mai fe yw’r chwaraewr delfrydol i wella’n tîm.
“Mae e’n dod gydag enw mawr iddo fe ei hun mewn gemau T20, gyda digon o brofiad rhyngwladol, ac mae e hefyd wedi chwarae yn yr IPL a’r Big Bash, felly mae e’n gwybod sut i chwarae criced T20 ar y llwyfan mawr.
“Roedden ni’n chwilio am chwaraewr ag iddo fygythiad dwbl, rhywun sy’n gallu bowlio ar gyflymdra da ac sy’n gallu batio mewn llefydd gwahanol yn y drefn fatio.
“Mae e’n bwrw’r bêl yn bwerus, ac mae’n gallu batio’n uchel neu’n isel yn y drefn, ac yn gallu cynnig hwb yn y pelawdau canol hefyd, felly rydym wrth ein bodd o’i gael e yma.”