Mae tîm criced Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton.
Bowlion nhw’r tîm cartref allan am 209, wrth i Marchant de Lange gipio pedair wiced, ac roedden nhw’n bump heb golli wiced pan ddaeth y glaw a golau gwael â therfyn i’r diwrnod cyntaf.
Bowlio cyflym ac ymosodol
Ar ôl i Michael Hogan fowlio Ben Curran yn y pumed pelawd, cipiodd Marchant de Lange ei wiced gyntaf yn y degfed pelawd wrth fowlio Ricardo Vasconcelos i adael y tîm cartref mewn trafferth ar 36 am ddwy.
Cipiodd Timm van der Gugten ddwy wiced nesa’r Saeson, wrth i Temba Bavuma gael ei ddal yn y slip gan Marnus Labuschagne, cyn i Rob Keogh golli ei wiced yn yr un ffordd i roi daliad i’r capten David Lloyd. Erbyn hynny, roedd y Saeson yn 57 am bedair.
Cafodd Alex Wakely ei ddal gan Charlie Hemphrey am 28 i roi wiced i Dan Douthwaite gydag ergyd ddiog i’r slip, a’r Saeson yn 61 am bump.
Partneriaethau cyn colli rhagor o wicedi
Ychwanegodd Josh Cobb ac Adam Rossington 86 am y chweched wiced mewn 22.1 pelawd, cyn i’r bêl wyro i ffwrd oddi wrth Josh Cobb, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Marchant de Lange.
Ychwanegodd Adam Rossington a Luke Procter 49 cyn i Adam Rossington gael ei ddal yn bachu gan Marnus Labuschagne oddi ar fowlio Michael Hogan am 77, a’r Saeson bellach yn 196 am saith ac yn mynd am gyfanswm parchus.
Ond collodd y Saeson eu tair wiced olaf am 11 rhediad, wrth i Luke Wood gael ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Michael Hogan.
Cipiodd Marchant de Lange wicedi Nathan Buck gyda daliad yn y slip i Charlie Hemphrey, a Ben Sanderson, a gafodd ei fowlio i roi pedwaredd wiced i’r bowliwr ar ôl ildio 64 rhediad.
Batiodd Morgannwg am bedair pelawd cyn diwedd y dydd, gyda Nick Selman a Charlie Hemphrey wrth y llain ar ddechrau’r ail ddiwrnod.