Ar ôl gêm gyfartal ddi-ganlyniad gyffrous yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf, mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Derby i herio Swydd Derby yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Mai 19).
Ond dydy hanes ddim o blaid y Cymry, sydd heb fuddugoliaeth ar y cae hwn mewn gêm pedwar diwrnod ers 2006.
Cawson nhw grasfa y tymor diwethaf, wrth i Tony Palladino gipio deg wiced yn yr ornest i sicrhau buddugoliaeth o 169 o rediadau i’r Saeson.
Y tymor cynt, daeth y glaw a dim ond ambell sesiwn oedd yn bosib dros y pedwar diwrnod.
Yn 2016, daeth yr ornest i ben yn gyfartal ddi-ganlyniad oherwydd cyfuniad o eira, eirlaw a chenllysg, ac roedden nhw’n gyfartal ddi-ganlyniad hefyd yn Chesterfield yn 2015.
Y tro diwethaf i Forgannwg ennill yn Derby yn 2006, tarodd yr Awstraliad Mark Cosgrove 233, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, wrth i’r Cymry ennill o chwe wiced.
Y timau
Mae’r capten Chris Cooke, a gafodd ei anafu yng Nghasnewydd, wedi’i enwi yng ngharfan Morgannwg ond dydy e ddim wedi gwella o anaf i’w goes.
David Lloyd sy’n arwain Morgannwg yn ei absenoldeb, ac yntau wedi ennill ei gap sirol ychydig ddyddiau’n ôl.
Mae Tom Cullen, y wicedwr wrth gefn, yn cymryd ei le, ac mae Dan Douthwaite, y chwaraewr amryddawn ifanc a greodd argraff yn y tîm 50 pelawd, hefyd yn chwarae ar ôl ymuno o Brifysgolion Caerdydd yr MCC.
Mae Lukas Carey yn chwarae yn lle’r bowliwr cyflym Marchant de Lange, sy’n cael gorffwys.
Mae Michael Hogan hefyd yn dychwelyd ar ôl anaf, ac yntau wedi cipio pum wiced i’r ail dîm yr wythnos ddiwethaf.
Swydd Derby: B Godleman (capten), L Reece, T Lace, W Madsen, A Hughes, H Hosein, M Critchley, A Dal, L van Beek, T Palladino, R Rampaul
Morgannwg: N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, D Lloyd (capten), B Root, J Lawlor, T Cullen, D Douthwaite, L Carey, M Hogan, A Salter