Gweilch 21–10 Scarlets
Y Gweilch a fydd unig gynrychiolwyr Cymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf wedi iddynt drechu’r Scarlets mewn gêm ail gyfle ar y Liberty nos Sadwrn.
Roedd y ddau dîm o Gymru’n wynebu ei gilydd i frwydro am y lle olaf yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd ar ôl gorffen yn bedwerydd yn eu hadrannau yn y Guinness Pro14.
Roedd angen tacl wych gan Leigh Halfpenny i atal Keelan Giles rhag croesi am gais cyntaf y gêm wedi dim ond tri munud ond ni fu rhaid i’r Gweilch aros yn hir. Croesodd George North yn y gornel dde i roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Sam Davies ychwanegu’r trosiad wedi wyth munud.
Caeodd Halfpenny’r bwlch gyda chic gosb wedi hynny cyn i Olly Cracknell hyrddio drosodd o dan y pyst i ymestyn mantais y Gweilch, 14-3 y sgôr wedi trosiad Davies.
Gorffennodd y Gweilch yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Hanno Dirksen gael ei anfon i’r gell gosb am drosedd ar Johnny McNicholl yn yr awyr.
Manteisiodd y Scarlets yn syth gyda Jonathan Davies yn croesi am gais cyntaf yr ymwelwyr wedi gwaith da McNicholl ar y dde.
Arafodd y sgorio wedi’r egwyl ond roedd buddugoliaeth y Gweilch yn ddiogel ddeg munud o’r dwiedd wrth i Dirksen groesi wedi pas hir Luke Price.
Y Gweilch felly a fydd yr unig dîm o Gymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf a bydd yn rhaid i’r Scarlets fodloni ar le yng Nghwpan Her Ewrop.
.
Gweilch
Ceisiau: George North 7’, Olly Cracknell 16’, Hanno Dirksen 71’
Trosiadau: Sam Davies 8’, 17’, Luke Price 71’
Cerdyn Melyn: Hanno Dirksen 33’
.
Scarlets
Cais: Jonathan Davies 34’
Trosiad: Leigh Halfpenny 35’
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 13’