Sgoriodd Nick Selman a Marnus Labuschagne ganred yr un i dîm criced Morgannwg ar drydydd diwrnod eu gornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghasnewydd ddoe, fel eu bod yn parhau i frwydro i achub y gêm ar y diwrnod olaf.
Bydd Morgannwg yn dechrau ar 359 am un, sy’n golygu blaenoriaeth o 146, er iddyn nhw orfod canlyn ymlaen ddoe, ar ei hôl hi o 213 ar ddiwedd y batiad cyntaf.
Sgorio’n sylweddol
Tarodd Nick Selman 148 heb fod allan, ei sgôr gorau erioed, tra bod Marnus Labuschagne wedi sgorio 128 heb fod allan, wrth adeiladu partneriaeth o 226 am yr ail wiced yn yr ail fatiad.
Dyma ganred cyntaf Nick Selman yn y Bencampwriaeth ers iddo fe sgorio’i sgôr gorau blaenorol o 142 yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yng Ngerddi Sophia yn 2017.
Adeiladodd e bartneriaeth agoriadol o 133 gyda Charlie Hemphrey yn gynharach yn y batiad.
Y rhod yn troi
Dechreuodd Morgannwg y trydydd diwrnod ar 241 am wyth, 222 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerloyw.
Graham Wagg a Timm van der Gugten oedd y pâr olaf wrth y llain gan nad oedd y capten Chris Cooke yn gallu batio oherwydd anaf i’w goes wrth fatio ar yr ail ddiwrnod.
Cyrhaeddodd Graham Wagg ei hanner canred oddi ar 90 o belenni, ar ôl taro pedwar pedwar ac un chwech.
Ond fe gollodd ei wiced oddi ar y belen ganlynol, wrth gam-ergydio i’r trydydd dyn oddi ar fowlio’r troellwr 20 oed, George Drissell, oedd wedi gorffen y batiad gyda phedair wiced.
Roedd Morgannwg i gyd allan am 250, ac fe ddaeth y cais iddyn nhw ganlyn ymlaen.
Ail fatiad dipyn gwell na’r batiad cyntaf
Dechreuodd Nick Selman a Charlie Hemphrey yn gadarn cyn cinio, gan gyrraedd 80 heb golli wiced ar ôl i Swydd Gaerloyw ddefnyddio chwe bowliwr yn aflwyddiannus.
Cyrhaeddodd Nick Selman ei hanner canred oddi ar 91 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar, wrth i’r pâr fynd y tu hwnt i bartneriaeth o gant.
Cyrhaedodd Charlie Hemphrey ei hanner canred yn fuan wedyn, oddi ar 107 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar a chwech.
Ond collodd Morgannwg Charlie Hemphrey pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio’r bowliwr cyflym llaw chwith Matt Taylor am 58, gan ddod â phartneriaeth o 133 i ben.
Roedd Morgannwg yn 195 am un erbyn amser te, gyda Nick Selman a Marnus Labuschagne wrth y llain.
Cyrhaeddodd Marnus Labuschagne ei hanner canred oddi ar 70 o belenni toc ar ôl yr egwyl, wrth i’w bartneriaeth fynd y tu hwnt i gant, ac wrth i Nick Selman agosáu at ei ganred.
Marnus Labuschagne gyrhaeddodd y garreg filltir gyntaf, oddi ar 113 o belenni, ar ôl taro 13 pedwar a dau chwech, a’r ddwy ergyd am chwech yn glanio ar y cae pêl-droed gerllaw.
Bu’n rhaid i Nick Selman weithio’n galed am ei ganred, ac fe gyrhaeddodd y garreg filltir oddi ar 208 o belenni, ar ôl taro deg pedwar.
Gyda phum pelawd yn weddill o’r diwrnod, cyrhaeddodd Nick Selman a Marnus Labuschagne garreg filltir arall, wrth adeiladu partneriaeth o 200, wrth iddyn nhw barhau i adeiladu ar eu mantais ar gyfer y diwrnod olaf.