Mae tîm criced Morgannwg yn gofidio am anaf i’r capten Chris Cooke wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest pedwar diwrnod yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghasnewydd.
Ar ddechrau’r trydydd diwrnod heddiw, mae angen 73 o rediadau ar y sir Gymreig i osgoi canlyn ymlaen, ar ôl i Gloucestershire sgorio 463 yn eu batiad cyntaf.
Wrth ymateb, mae Morgannwg yn 241 am wyth, ac mae’n annhebygol y bydd Chris Cooke yn dychwelyd i’r llain yn sgil yr anaf i’w droed.
Dechrau da i’r bowlwyr
Roedd yr ymwelwyr yn 360 am chwech ar ddechrau’r ail ddiwrnod, gan ychwanegu 103 cyn iddyn nhw gael eu bowlio allan ar ôl cipio pwyntiau batio llawn.
Ychwanegodd Ryan Higgins (103) a Graeme van Buuren 96 at y cyfanswm am y seithfed wiced cyn i Timm van der Gugten daro coes van Buuren o flaen y wiced am 25.
Ar ôl colli George Drissell, oedd wedi’i ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Marchant de Lange, a David Payne, wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne oddi ar fowlio Graham Wagg yn fuan wedyn, aeth Ryan Higgins yn ei flaen i gyrraedd ei ganred oddi ar 89 o belenni.
Bu’n rhaid i Forgannwg fatio am chwarter awr cyn cinio, ond fe gollon nhw wiced Nick Selman yn y belawd olaf ond un pan gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan David Payne.
Adfer y batiad ar ôl wicedi cynnar
Collodd Marnus Labuschagne ei wiced oddi ar ail belen y prynhawn pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne – ei ail wiced mewn tair pelen.
Ond daeth achubiaeth diolch i bartneriaeth o 95 rhwng Charlie Hemphrey a David Lloyd am y drydedd wiced.
Daeth hanner canred cyntaf Charlie Hemphrey mewn criced sirol yn ystod y bartneriaeth ond cafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan y troellwr George Drissell am 60. Dyma’i ail wiced ar ôl i David Lloyd gael ei stympio am 37.
Cipiodd Matt Taylor wicedi Jeremy Lawlor a Billy Root, wrth daro coes y naill o flaen y wiced a bowlio’r llall.
Ychwanegodd Graham Wagg 36 gyda Chris Cooke cyn i’r capten orfod gadael y cae ag anaf.
Cafodd Marchant de Lange ei fowlio gan Ryan Higgins, cyn i Kieran Bull gael ei ddal gan Gareth Roderick oddi ar fowlio George Drissell.
Mae tynged Morgannwg, i raddau helaeth, yn nwylo Graham Wagg erbyn hyn, ac mae e wrth y llain ar 45 heb fod allan, gyda Timm van der Gugten y pen arall ar naw.