Mae Chris Cooke, capten tîm criced Morgannwg, yn dweud nad oedd eu batio’n ddigon da wrth iddyn nhw golli o bum wiced yn erbyn Middlesex yn Lord’s ddoe (dydd Sul, Mai 5).
Sgorion nhw 285 cyn cael eu bowlio allan cyn diwedd y batiad, wrth i Charlie Hemphrey sgorio 87, ei sgôr gorau erioed.
Tarodd y capten 46 a sgoriodd Billy Root 37, ond wnaeth neb arall gyfrannu’n sylweddol.
I’r gwrthwyneb, tarodd Nick Gubbins 92 a sgoriodd Sam Robson 79, a Stevie Eskinazi, capten y Saeson, 71 wrth i Middlesex gyrraedd y nod gyda dwy belawd a hanner a phum wiced yn weddill.
Mae’r canlyniad yn golygu bod gan Middlesex obaith o gyrraedd y rownd nesaf, tra bo’r gystadleuaeth ar ben i Forgannwg.
“Dw i’n meddwl ein bod ni 30 neu 40 o rediadau’n brin, fel ein bod ni’n wynebu brwydr o’r fan honno, a wnaethon ni ddim cipio digon o wiced, felly roedden ni’n wynebu cryn her drwyddi draw,” meddai Chris Cooke wedi’r golled.
“Brwydrodd y bois yn arbennig o dda i gael yn ôl i mewn i’r gêm ond roedd ein batio ni’n rhy wan.
“Batiodd Charlie [Hemphrey] yn dda. Roedd yn dda ei weld e’n cael rhediadau, wnaeth e symud y bêl o gwmpas yn dda, ac fe gafodd e’r effaith roedd ei hangen arnon ni.
“Ond doedden ni ddim yn farus o ran ein partneriaethau a wnaethon ni ddim ymestyn y rhai gawson ni.”
‘Cam i’r cyfeiriad cywir’
Serch ei siom o fynd allan o’r gystadleuaeth, mae Chris Cooke yn dweud bod arwyddion bod y perfformiadau’n dechrau gwella.
“Roedd methu â chyrraedd ein potensial ond sgorio 285 serch hynny yn arwydd da.
“Aeth llawer o’r canlyniadau eraill o’n plaid ni, felly byddai buddugoliaeth wedi ein cadw ni ynddi, ond mae cymryd cam i’r cyfeiriad cywir yn ein plesio.”