Mae Lloegr wedi curo Pacistan o saith wiced yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd ar ôl i’r capten Eoin Morgan, y Gwyddel, daro 57 heb fod allan.
Roedd ei fatiad yn cynnwys pum pedwar a thri chwech, wrth i’r Saeson gipio’r fuddugoliaeth ym mhelawd ola’r ornest wrth gwrso 174.
Yn gynharach yn yr ornest, sgoriodd Pacistan 173 am chwech yn dilyn partneriaeth o 103 rhwng Fakhar Zaman (50) a Babar Azam (65).
Manylion
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, llwyddodd Pacistan i osgoi colli wiced yn gynnar pan fu bron i ddryswch rhwng Fakhar Zaman a’i bartner Babar Azam arwain at ei redeg allan yn y belawd gyntaf.
Buan yr oedd Fakhar Zaman ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn pan gipiodd y capten Eoin Morgan ddaliad gwych ag un llaw uwch ei ben ar ymyl y cylch, a Phacistan yn 16 am un ar ddiwedd yr ail belawd.
Ac roedden nhw’n 31 am ddwy yn y bedwaredd pan gafodd Imam-ul-Haq ei ddal gan Ben Foakes oddi ar fowlio Jofra Archer am saith, gan lwyddo i gyrraedd 38 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Parhau i glatsio
Wrth geisio lleddfu’r pwysau, daeth Haris Sohail a Babar Azam ynghyd a dechrau clatsio wrth i’r rheolau maesu gael eu llacio.
Chris Jordan oedd y bowliwr cyntaf i ddioddef, wrth i Haris Sohail daro chwech a phedwar ar ôl i Babar Azam daro pedwar yn gynharach yn y belawd.
Chafodd y troellwr coes Adil Rashid fawr ddim lwc chwaith, wrth i Babar Azam daro chwech enfawr yn y nawfed pelawd.
Roedd Pacistan yn edrych yn fwy cyfforddus eto erbyn hanner ffordd drwy’r batiad wrth gyrraedd 81 am ddwy.
Wrth i’r troellwr Joe Denly gael ei gyfle cyntaf i fowlio, cafodd ei daro am ddau chwech enfawr i’r brif eisteddle gan Babar Azam, a gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 31 o belenni.
Oddi ar 34 o belenni y cyrhaeddodd Haris Sohail ei hanner canred yntau yn y bymthegfed pelawd, wrth i’w bartneriaeth gyda Babar Azam fynd y tu hwnt i 100 cyn i Bacistan lithro i 138 am bedair.
Lloegr yn taro’n ôl
Tynnodd Haris Sohail y bêl i gyfeiriad David Willey ar y ffin am 50 i roi wiced i Jofra Archer, oedd wedi rhedeg Babar Azam allan am 65 ddwy belen yn ddiweddarach. Roedd partneriaeth y ddau yn werth 103.
Tro Chris Jordan oedd hi yn yr ail belawd ar bymtheg, wrth i Imad Wasim, sy’n enedigol o Abertawe, gael ei ollwng gan y bowliwr, cyn i hwnnw redeg ei bartner Asif Ali allan oddi ar yr un belen wrth iddo gamu i lawr y llain. Erbyn hynny, roedd Pacistan yn 139 am bump.
Ychwanegodd Imad Wasim ac Ashraf Ali 26 cyn i Ashraf Ali gael ei ddal gan Joe Denly yn mynd am ergyd fawr, a Phacistan yn gorffen y batiad ar 173 am chwech.
Y Saeson yn cwrso
Dechreuodd Lloegr yn ymosodol yn erbyn Imad Wasim, y troellwr llaw chwith, a Faheem Ashraf ond gyrrodd Ben Duckett at Imad oddi ar fowlio Shaheen Afridi am naw, a’r sgôr yn 21 am un.
Roedden nhw’n 48 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio ar ôl i James Vince a Joe Root lwyddo i sefydlogi’r batiad.
Ond cipiodd Imad Wasim ail wiced Pacistan, wrth i James Vince gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Sarfaraz Ahmed am 36, ac roedd y batiwr ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn yn dilyn adolygiad, a’r sgôr yn 66 am ddwy.
Cael a chael
Roedden nhw wedi cyrraedd 75 am ddwy erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, chwe rhediad y tu ôl i sgôr Pacistan ar yr un adeg, a’r un nifer o wicedi wedi cwympo.
52 oedd y nod oddi ar bum pelawd ola’r batiad, wrth i Joe Root ac Eoin Morgan wneud yn iawn am ddechrau siomedig Lloegr.
Ond collodd y Saeson eu trydedd wiced pan gafodd Joe Root ei ddal gan y wicedwr Sarfaraz Ahmed oddi ar fowlio Hasan Ali am 47, a’r tîm erbyn hynny’n 131 am dair yn yr unfed belawd ar bymtheg.
Llwyddodd Eoin Morgan a Joe Denly i fynd â Lloegr yn nes at eu nod wrth i’r capten gyrraedd ei hanner canred a tharo chwech i ennill y gêm.