Mae Roman Walker, y bowliwr cyflym o Wrecsam, a Connor Brown, y batiwr o Gaerffili, wedi’u hychwanegu at garfan Morgannwg ar gyfer y daith i Lord’s i herio Middlesex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Dydy Michael Hogan ddim wedi gwella o anaf i linyn y gâr ac felly fe ddaw Roman Walker i mewn ar ôl sgorio 82 a chipio chwe wiced am 66 i’r ail dîm yn erbyn Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf.
Tarodd Connor Brown ganred yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ddydd Llun diwethaf (Ebrill 29).
Mae Morgannwg yn mynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron yn y gystadleuaeth ar ôl dechrau sigledig.
Y gwrthwynebwyr
Mae Middlesex yn bedwerydd yn y tabl ar ôl ennill pedair allan o chwe gêm hyd yn hyn.
Ond byddan nhw heb y Gwyddelod Paul Stirling a Tim Murtagh, yn ogystal â Dawid Malan ac Eoin Morgan, sydd yng ngharfan Lloegr.
Gemau’r gorffennol
Ar eu hymweliad diwethaf â Lord’s yn 2015, tarodd Colin Ingram 102 i Forgannwg, ond cipiodd James Harris, y Cymro gynt o Forgannwg, bedair wiced cyn i Dawid Malan sgorio 156 i sicrhau buddugoliaeth i’r Saeson o wyth wiced.
Ond y Cymry oedd yn fuddugol yno yn 2013, pan darodd yr Awstraliad Marcus North 137 gan adeiladu partneriaeth o 156 gyda Jim Allenby i ennill o 26 o rediadau.
Collodd Morgannwg o chwe rhediad yn 2007, ac roedden nhw’n gyfartal yn 2000.
Carfan Middlesex: S Eskinazi (capten), E Bamber, N Gubbins, J Harris, T Helm, M Holden, O Rayner, S Robson, T Roland-Jones, G Scott, J Simpson, N Sowter, R Taylor
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, D Lloyd, B Root, D Douthwaite, M de Lange, T van der Gugten, R Walker, J Lawlor, M Labuschagne, C Hemphrey, C Brown, G Wagg