Mae Casnewydd wedi hawlio lle yn y gêmau’r ail-gyfle drwy orffen yn y seithfed safle wedi gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn Morecambe.

Y tim cartref sgoriodd gyntaf  wth i gyn-chwaraewr Casnewydd Aaron Collins  blannu’r bêl yn rhwyd yr Alltudion yn yr ornest dyngedfennol yn Adran Dau.

Gyda thair munud yn unig ar ôl, sgoriodd Jamille Matt i rwyd Morecambe.

Bydd Casnewydd nawr yn chwarae y gêm gyntaf o’r gêmau ail gyfle nos Iau gartref yn erbyn Mansfield dros ddau gymal.