Mae Caerdydd wedi colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl cael eu curo o dair gôl i ddwy adref yn erbyn Crystal Palace ddoe.

Roedd yn rhaid i’r Adar Gleision ennill i gael unrhyw obaith o aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Bu ond y dim iddynt gael y dechrau delfrydol ond fe darodd ergyd Josh Murphy y postyn.

Wilfred Zaha sgoriodd y gôl gyntaf i Palace gan blannu’r bêl yng nghornel y rhwyd,

Rhoddodd amddiffynwr Palace Martin Kelly y bêl yn ei gôl ei hun, ac roedd hi’n un gôl yr un.

Wyth munud yn ddiweddarach fe daranodd Batshuayi y bêl i ben y rhwyd i’w gwneud hi’n 1-2 i Palace.

Yn yr ail hanner, cafodd Murphy a Zohore gyfleon da i sgorio i’r Adar Gleision ond fe fethon nhw gymeryd mantais.

I goroni’r cwbwl, rhedodd Townsend nerth ei draed i sgorio trydedd gôl Palace gyda tharan o ergyd.

Sgoriodd Bobby Reid yn y munud olaf i Gaerdydd i ddod a’r sgôr terfynol yn 2-3.

Bydd Caerdydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf gyda Abertawe.