Mae tîm criced Morgannwg yn mynd am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London heddiw (dydd Sul, Ebrill 28), wrth iddyn nhw groesawu Surrey i Erddi Sophia yng Nghaerdydd.

Daeth eu pwynt cyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Swydd Caint ddydd Iau, pan ddaeth yr ornest i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

Hon yw eu gêm olaf ar eu tomen eu hunain yn y gystadleuaeth.

Mae Surrey heb nifer o’u sêr ar gyfer yr ornest, a dim ond unwaith maen nhw wedi ennill yn y gystadleuaeth hyd yn hyn ar ôl chwarae pedair gêm.

Gemau’r gorffennol a’r timau

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Surrey yng Nghymru ers 2008, pan sgoriodd Mark Wallace, y Cyfarwyddwr Criced presennol, 85 o dan y llifoleuadau.

Y Cymry oedd yn fuddugol bryd hynny, o 78 o rediadau.

Mae un newid yn nhîm Morgannwg, wrth i Michael Hogan ddychwelyd yn lle’r bowliwr cyflym o Gymru, Lukas Carey.

Morgannwg: J Lawlor, M Labuschagne, C Cooke (capten), D Lloyd, B Root, C Hemphrey, K Carlson, G Wagg, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan.

Surrey: M Stoneman, W Jacks, D Elgar, R Burns (capten), B Foakes, J Smith, J Clark, G Batty, C McKerr, M Morkel, S Meaker

Sgorfwrdd