Mae Morgannwg wedi colli eu trydedd gêm yn olynol yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Cawson nhw eu curo o ddau rediad gan Wlad yr Haf yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 259 wrth gwrso 262 am y fuddugoliaeth.
Brwydron nhw’n ôl tua’r diwedd ar ôl bod yn 21 am bump, ond roedd gormod gan y bowlwyr i’w wneud yn y pen draw i atal embaras y batwyr.
Roedd ganddyn nhw lygedyn o obaith diolch i 62 gan Graham Wagg ac 84 gan David Lloyd, ond methiant y batwyr unwaith eto sy’n gyfrifol am y golled.
Sgoriodd Lukas Carey 39, ei sgôr gorau erioed mewn gêm Rhestr A.
Dechrau da, ond Gwlad yr Haf yn llithro
Ar lain sydd wedi ffafrio’r batwyr yn gryf hyd yn hyn, galwodd Gwlad yr Haf yn gywir a phenderfynu batio.
Ond Morgannwg gafodd y dechrau gorau, wrth gipio wicedi cynnar i atal y llif rhediadau.
Marchant de Lange gipiodd wicedi’r ddau fatiwr agoriadol, Azhar Ali a Tom Banton, y naill wedi’i ddal gan David Lloyd yn y slip, a’r llall gan y wicedwr Chris Cooke.
Daeth trydedd wiced yn fuan wedyn, pan gafodd Peter Trego ei fowlio gan Craig Meschede, cyn-fowliwr cyflym Gwlad yr Haf, wrth i’r ymwelwyr lithro i 77 am dair mewn ychydig dros ddwy belawd ar bymtheg.
Ond tarodd James Hildreth 67 oddi ar 76 o belenni i sefydlogi’r batiad, gan adeiladu partneriaeth o 57 gyda’r capten Tom Abell.
Cwympodd wicedi Gwlad yr Haf yn gyson wedi hynny, wrth i Marchant de Lange a Marnus Labuschagne, y troellwr coes o Awstralia, orffen gyda thair wiced yr un.
Roedd Gwlad yr Haf yn 261 am naw erbyn diwedd y batiad, diolch yn bennaf i Craig Overton, oedd wedi llwyddo i sgorio 41 yn erbyn y llif o wicedi.
Roedd dwy wiced yn y pen draw i Timm van der Gugten hefyd.
Yr un hen stori i fatwyr Morgannwg
Wrth gwrso 262 i ennill, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib.
Cwympodd wicedi’n gyson yn gynnar yn y batiad, ac roedden nhw dan bwysau o fewn dim o dro.
Tarodd Josh Davey goesau Charlie Hemphrey a Craig Meschede o flaen y wiced, a chollodd Marnus Labuschagne ei wiced yntau yn yr un modd oddi ar fowlio Craig Overton i adael y Cymry’n chwech am dair o fewn tair pelawd.
Roedden nhw’n 16 am bedair pan gafodd Billy Root ei ddal gan Lewis Gregory oddi ar fowlio Josh Davey, ac yn 21 am bump, belawd yn ddiweddarach, pan darodd Craig Overton goes Kiran Carlson o flaen y wiced.
Cafodd Chris Cooke ei ddal gan Tom Banton oddi ar fowlio Lewis Gregory am ddeg yn y deuddegfed pelawd i adael Morgannwg yn 41 am chwech.
Partneriaeth dda…
Daeth David Lloyd a Graham Wagg ynghyd wedyn i gynnig elfen o barchusrwydd i’r sgôr.
Cyrhaeddodd David Lloyd ei hanner canred oddi ar 63 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar ac un chwech.
Roedden nhw wedi ychwanegu 99 pan gafodd David Lloyd ei fowlio gan Roelof van der Merwe am 84, a’r sgôr yn 140 am saith. Roedd ei fatiad yn cynnwys naw pedwar a dau chwech oddi ar 93 o belenni.
… ond gormod i’w wneud?
Parhau i glatsio wnaeth Graham Wagg a Marchant de Lange, ond roedd gobeithion Morgannwg yn pylu erbyn hynny.
Cyrhaeddodd Graham Wagg ei hanner canred oddi ar 71 o belenni, ar ôl taro pum pedwar ac un chwech.
Ond roedd e allan yn y pen draw am 62, wrth yrru pelen gan Josh Davey i lawr corn gwddf Roelof van der Merwe ar yr ochr agored, a’r sgôr yn 193 am saith wrth i’r bowliwr gipio’i bedwaredd wiced.
Fe orffennodd y bowliwr ei ddeg pelawd gyda phedair wiced am 36, gan gynnwys tair pelawd ddi-sgôr.
Roedd Morgannwg yn 200 am wyth gydag ychydig dros 11 o belawdau’n weddill, ond roedd angen 62 arnyn nhw o hyd i ennill.
Cafodd Marchant de Lange ei fowlio am 23 yn fuan wedyn gan Craig Overton, a’r sgôr yn 202 am naw.
Roedd angen dau rediad i ennill oddi ar y ddwy belawd olaf, ond tarodd Lukas Carey y bêl i lawr corn gwddf Azhar Ali ar yr ochr agored oddi ar fowlio Roelof van der Merwe, a’r ymwelwyr yn fuddugol o ddau rediad.