Caerdydd 0–2 Lerpwl
Mae Caerdydd gam yn nes at ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul.
Mae gan yr Adar Gleision un gêm yn llai i achub eu hunain wedi i goliau ail hanner Wijnaldum a Milner godi Lerpwl i frig y tabl.
Fe ddylai Roberto Firmino fod wedi rhoi Lerpwl ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond anelodd y blaenwr dros y trawst.
Oumar Niasse a gafodd gyfle gorau Caerdydd yn y pen arall ond gwnaeth Alisson arbediad da i atal foli’r blaenwr.
Daeth y gôl gyntaf ddeuddeg munud wedi’r egwyl, Georginio Wijnaldum yn taro taran o ergyd i gefn y rhwyd o gic gornel isel Trent Alexander-Arnold.
Cafodd Jordan Henderson gyfle da i ddyblu’r fantais ar yr awr ond aeth ei ymdrech dros y trawst.
Roedd cyfle euraidd i Sean Morrison unioni pethau i Gaerdydd bedwar munud yn ddiweddarach gyda pheniad rhydd yn y cwrt chwech, ond gyda rhwyd wag o’i flaen fe fethodd yr amddiffynnwr canol a chael ei ben i’r bêl!
Aeth prynhawn Morrison o ddrwg i waeth ddeg munud o’r diwedd, cafodd Mo Salah y gorau ohono yn y cwrt cosbi a phenderfynodd y dyfarnwr fod yr amddiffynnwr wedi wreslo’r Eifftiad i’r llawr. Yr eilydd, James Milner, a gymerodd y gic o’r smotyn gan ei tharo’n hyderus i’r gornel isaf.
Golyga’r golled mai dim ond tair gêm sydd gan dîm Neil Wrnock ar ôl i ddal Brighton yn yr ail safle ar bymtheg. Mae tri phwynt bellach yn gwahanu’r ddau dîm wedi iddynt hwythau gael gêm gyfartal yn Wolves ddydd Sadwrn.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson, Hoilett (Murphy 83’), Camarasa, Ralls (Bacuna 79’), Mendez-Laing, Niasse (Zohore 67’)
Cerdyn Melyn: Gunnarsson 80’
.
Lerpwl
Tîm: Alisson, Alexander-Arnold (Gomez 86’), Matip, van Djik, Robertson, Henderson, Wijnaldum, Keita (Fabinho 71’ (Milner 75’)), Salah, Firmino, Mane
Goliau: Wijnaldum 57’, Milner [c.o.s.] 81’
Cerdyn Melyn: Milner 90+1’
.
Torf: 32,082