Mae gêm Bencampwriaeth gyntaf tîm criced Morgannwg yn debygol o orffen yn gyfartal, ar ôl i Swydd Northampton gyrraedd 234 heb golli wiced erbyn diwedd yr ail ddiwrnod.
Tarodd Ricardo Vasconcelos 125 a Rob Newton 85.
Fe fu’n ddiwrnod rhwystredig i fowlwyr Morgannwg, ar ôl i’r batwyr osod y seiliau drwy gyrraedd 570 am wyth cyn cau’r batiad amser cinio ar lain fflat sy’n cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr.
Cau pen y mwdwl ar y batiad
Collodd Morgannwg ddwy wiced yn gynnar ar yr ail fore, wrth i Billy Root a Kiran Carlson fynd allan yn ystod hanner awr gynta’r sesiwn.
Doedd yr hyder ddangosodd Morgannwg wrth fatio yn gynnar yn y batiad ddim i’w weld ar ddechrau’r sesiwn, wrth i’r ymwelwyr geisio brwydro’n ôl ar ôl i’r Cymry adeiladu ar y pwyntiau batio llawn gawson nhw cyn diwedd y diwrnod cyntaf
Cafodd Billy Root ei ddal gan Ricardo Vasconcelos yn sgwâr oddi ar fowlio Luke Procter am 126, ac fe gollodd Kiran Carlson ei wiced pan gafodd ei ddal yn drwsgwl gan y capten Alex Wakely yn y slip oddi ar fowlio Nathan Buck am 111, a’r sgôr erbyn hynny’n 457 am chwech.
Aeth Morgannwg y tu hwnt i 500 wrth i’r capten Chris Cooke ymosod gyda llu o ergydion i’r ffin ar ôl i Marchant de Lange ymuno â fe a tharo chwech cynta’r gêm. Ond buan yr aeth Marchant de Lange, wedi’i ddal yn gampus gan Blessing Muzarabani, wrth redeg am yn ôl, oddi ar fowlio Jason Holder am 12, a’r Cymry’n 511 am wyth.
Daeth ail a thrydydd chwech y gêm toc cyn cinio wrth i Forgannwg garlamu heibio 550 gyda Timm van der Gugten a Chris Cooke wrth y llain yn parhau i gosbi’r bowlwyr. Erbyn amser cinio, roedden nhw’n 570 am wyth ac fe benderfynon nhw gau’r batiad, gyda Chris Cooke heb fod allan ar 70.
Batwyr yn cosbi’r bowlwyr
Dechreuodd Swydd Northampton eu batiad yn bwyllog, ond fe ddaeth cyfle i Forgannwg gipio wiced pan ollyngodd Nick Selman ei afael ar y bêl wrth i Ricardo Vasconcelos ergydio pelen gan Marchant de Lange i’r slip ar 21. Fe lwyddodd i osgoi’r maeswyr am yr ail dro cyn diwedd y belawd.
Aeth e a Rob Newton yn eu blaenau wedyn i adeiladu partneriaeth agoriadol gadarn wrth i fowlwyr Morgannwg ei chael yn anodd i fanteisio ar y llain yn ystod sesiwn y prynhawn, ac fe orffennodd y Saeson ar 105-0 amser te.
Roedd Rob Newton newydd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 137 o belenni, ar ôl taro pedwar pedwar, pan gyrhaeddodd ei dîm 150 heb golli wiced.
Daeth canred Ricardo Vasconcelos yn ddiweddarach, a hynny oddi ar 189 o belenni, ar ôl iddo fe daro 15 pedwar.