Fe fydd Gleision Caerdydd yn teithio i Galway i chwarae Connacht ddydd Sadwrn (Ebrill 13) ar gyfer gêm fawr yng nghynghrair y Guinness PRO14.
Os nad yw tîm yr hyfforddwr John Melville yn sicrhau buddugoliaeth, Connacht fydd yn sicrhau eu lle ymysg ceffylau blaen y gynghrair.
Y Cymro, Gareth Anscombe, fydd yn gapten ar y Gleision wrth iddyn nhw frwydro i sicrhau lle gyda Glasgow a Munster ar frig Cynghrair A.
“Fel ffeinal”
“Mae hwn yn rownd derfynol fawr i ni ac os na fyddwn ni’n cael y canlyniad rydym ei angen fe fyddwn yn edrych am gêm ail gyfle o’r pedwerydd safle,” meddai hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill.
“Mae’r bechgyn wedi bod yn hyfforddi yn ystod yr wythnos fel pe bai’n rownd derfynol. Mae’n gystadleuaeth mae’n rhaid i ni ennill ac rydym yn edrych ymlaen at yr her.”
Ar hyn o bryd mae’r Gleision bedwar pwynt tu ôl i Connacht sydd yn drydydd. Gyda buddugoliaeth, fe fyddai Connacht yn sicrhau safle yn y gemau ail-gyfle.
Fe all y Gweilch roi pwysau ar y Gleision a Connacht heno (Nos Wener, Ebrill 12) pe baen nhw yn ennill yn erbyn Zebre o De Affrica, sydd ar waelod y gynghrair.
Os yw’r Gweilch, sydd dri phwynt yn unig tu ôl i’r Gleision, yn ennill – fe fydd y gêm ddydd Sadwrn yn bwysicach fyth.
Newidiadau
Mae John Mulvihill wedi gwneud tri newid i’r tîm wnaeth golli yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf.
Fe fydd Jason Harries yn cymryd lle Aled Sumerhill – yr unig newid ymysg y cefnwyr.
O ran y blaenwyr, mae Ethan Lewis yn dechrau o flaen Kristian Dacey sydd wedi ei anafau, ac mae George Earle yn cael ei ddewis cyn Shane Lewis-Hughes.
Seb Davies fydd yr wythwr ar ôl i Nick Williams fethu â dychwelyd o anaf, a bydd Josh Turnbull yn chwarae yn safle’r blaenasgellwr.