Tarodd Ian Bell ei ganred cyntaf i Swydd Warwick yn y Bencampwriaeth ers 2016 ddydd Sul i sicrhau gêm gyffrous yn erbyn Morgannwg yn Edgbaston.
Mantais fechan o 25 o rediadau sydd gan y Cymry wrth iddyn nhw ddechrau’r trydydd diwrnod heddiw ar 55 heb golli wiced.
Wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 220, cafodd y Saeson eu bowlio allan am 250 yn eu batiad cyntaf, wrth i Ian Bell orffen ar 106 heb fod allan, canred rhif 53 ei yrfa dosbarth cyntaf – ond ei gyntaf yn erbyn Morgannwg.
Fe ddangosodd y batiwr rhyngwladol gryn amynedd wrth gymryd dros dair awr i gyrraedd ei hanner canred, ac ychydig yn llai na chwech awr i gyrraedd y cant. Ond yn ystod ei fatiad, fe redodd ei bartner, Jonathan Trott allan mewn modd cywilyddus am 57 a’r ddau wedi adeiladu partneriaeth o 81 erbyn hynny. David Lloyd oedd y maeswr.
Ian Bell yn rhedeg allan o bartneriaid
Ychydig iawn o gefnogaeth gafodd Ian Bell y pen arall i’r llain fel arall, wrth i fowlwyr Morgannwg roi’r Saeson dan bwysau. Cipiodd Timm van der Gugten bedair wiced am 65 a Lukas Carey dair wiced am 56 wrth i’r uned fowlio berfformio’n gadarn gyda’i gilydd.
Cipiodd y troellwr, Andrew Salter wiced Sam Hain toc cyn cinio, cyn i Forgannwg gipio tair wiced am naw rhediad o fewn pum pelawd wedi’r egwyl.
Cipiodd Lukas Carey ddwy wiced yn yr un belawd, wrth i Tim Ambrose gael ei ddal gan Nick Selman yn y slip cyn i Keith Barker gael ei fowlio.
Roedd y Saeson yn 174 am saith pan gafodd Jeetan Patel ei ddal gan Andrew Salter oddi ar ei fowlio’i hun – ac yntau wedi treulio rhan o’r gaeaf yn hogi ei sgiliau o dan arweiniad y batiwr anffodus.
Adeiladodd Chris Wright (29) ac Ian Bell bartneriaeth o 69 am yr wythfed wiced cyn i Timm van der Gugten gipio tair wiced mewn chwe phelen. Fe darodd e goesau Chris Wright a Henry Brookes o flaen y wiced cyn i Josh Poysden ddarganfod dwylo Andrew Salter yn y gyli.
Ail fatiad Morgannwg
Batiodd agorwyr Morgannwg yn ofalus ar ddechrau’r ail fatiad, wrth gyrraedd 55 heb golli wiced oddi ar 18 o belawdau i fod â llygedyn o obaith o ennill eu hail gêm yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Fe allai’r gystadleuaeth rhwng y Andrew Salter a Jeetan boethi unwaith eto dros y deuddydd nesaf, wrth i lain Edgbaston ddangos rhyw fymryn o obaith i’r troellwyr.