Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi disgrifio’r “teimlad anhygoel” o ennill ras y Critérium du Dauphiné yn Ffrainc.
Cael a chael oedd hi tua diwedd y ras y prynhawn yma, wrth i Adam Yates gipio buddugoliaeth yn y cymal olaf i sicrhau ail safle yn y ras gyfan.
Cafodd y Cymro ddau bynjar yn ei olwynion yn y cymal olaf dros 136km rhwng Moutiers a St Gervais Mont Blanc ond ar ôl trwsio’r olwyn yr ail waith, fe lwyddodd i gyrraedd diogelwch y peloton gyda chymorth Michal Kwiatkowski a Dylan van Baarle.
Croesodd y Cymro’r llinell derfyn yn bumed yn y cymal y tu ôl i Adam Yates, oedd wedi llwyddo i dorri mantais Geraint Thomas drosto i funud union.
‘Ras fawreddog’
“Mae’n anhygoel cael ennill y fath ras fawreddog,” meddai Geraint Thomas. “Mae’n anhygoel. Wnes i ddim gadael i fi fy hun feddwl yn rhy bell ymlaen llaw.
“Ro’n i bob amser yn meddwl am y diwrnod nesaf. Nawr dw i’n sylweddoli fy mod i wedi ennill ras enfawr.
“Doedd y ddau bynjar heddiw wir ddim wedi helpu. Roedd rhaid i fi gwrso fy ffordd yn ôl. Ond wnaeth y bois rasio’n dda iawn i fi. Wrth ddringo am y tro olaf, ro’n i’n gwybod fod gyda fi ryw funud ag 20 eiliad i’w cholli i Yatesy.
“Ro’n i’n fwy hyderus ac yn hapusach gyda phob cilomedr. Yn olaf, gyda 200m i fynd, pan wnaethon nhw ddechrau gwibio am y fuddugoliaeth, ro’n i’n teimlo rhyddhad.
“Galla i orffwys rhwyfaint nawr ac aros am fis Gorffennaf. Mae hyn yn hwb i’r hyder ar gyfer y Tour (de France).”