Llwyddodd Swydd Gaerloyw i achub eu batiad o 86-5 i 236 i gyd allan ar ddiwrnod cynta’r gêm yn erbyn Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth ym Mryste, ac fe orffennodd Morgannwg y diwrnod ar 26-0.
Seren y dydd o safbwynt Morgannwg oedd y bowliwr cyflym Marchant de Lange, a gipiodd ei ffigurau gorau erioed i Forgannwg, pum wiced am 62 – yr ail waith iddo gipio pum wiced i’r sir.
Sesiwn y bore
Cipiodd y bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey ddwy wiced gynnar wrth gyrraedd 50 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa gymharol fer, i roi’r flaenoriaeth i’r Cymry, wrth gyfyngu’r tîm cartref i 30 am ddwy o fewn saith pelawd.
Y capten Chris Dent oedd y batiwr cyntaf allan wrth golli’r ffon agored am chwech, cyn i’r bowliwr daro coes Benny Howell o flaen y wiced am 11. Fe lwyddodd Carey i gyrraedd y garreg filltir mewn un gêm yn llai nag un o fawrion Morgannwg, Steve Watkin.
Pentyrru wnaeth trafferthion Swydd Gaerloyw wrth i Gareth Roderick gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio’r capten Michael Hogan am 17, a’i dîm yn 53 am dair i sicrhau eu pwynt bonws cyntaf.
Ar 81 am dair ychydig cyn cinio, daeth cyfle i Marchant de Lange gipio wiced Jack Taylor, ond fe ollyngodd Aneurin Donald ei afael ar y bêl yn y slip. Ond fe gafodd e ail gyfle, ac fe gymerodd hwnnw, gan daro ffon agored y batiwr allan o’r ddaear i adael y Saeson yn 86 am bedair erbyn amser cinio.
Sesiwn y prynhawn
Roedd wiced arall i’r bowliwr cyflym o Dde Affrica’n syth ar ôl cinio, wrth i James Bracey gael ei ddal oddi ar belen gynta’r sesiwn gan Nick Selman yn y slip am 34, a Swydd Gaerloyw’n 86 am bum wiced.
Tarodd Swydd Gaerloyw’n ôl yn gynnar yn y prynhawn ar ôl dechrau da Morgannwg. Ond collodd y tîm cartref eu chweched wiced ar 124 pan darodd Michael Hogan goes Graeme van Buuren o flaen y wiced am 10.
Fe lwyddodd Kieran Noema-Barnett a Ryan Higgins i greu rhwystredigaeth i’r bowlwyr gydol y sesiwn wedi hynny, gan ychwanegu 44 cyn i Higgins dynnu i gyfeiriad Shaun Marsh oddi ar fowlio Marchant de Lange am 43 tua diwedd y sesiwn. Roedd y Saeson yn 172-7 erbyn amser te.
Y sesiwn olaf
Wrth i Kieran Noema-Barnett a Dan Worrall geisio achub y batiad, fe gawson nhw ddechreuad digon cadarn yn y sesiwn olaf, gan ychwanegu 39 at y cyfanswm. Ond buan y cafodd Noema-Barnett ei daro ar ei goes gan Lukas Carey am 46 ar ôl iddo yntau dderbyn y bêl newydd, a’r tîm cartref yn 211 am wyth.
Cwympodd y ddwy wiced olaf o fewn dim o dro. Cafodd Matt Taylor ei ddal gan David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange, cyn i’r un bowliwr waredu Benny Howell, oedd wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke am ddau. Gorffennodd y bowliwr gyda phum wiced am 62, ei ffigurau gorau erioed i’r sir. Roedd Swydd Gaerloyw i gyd allan am 236.
Agorodd Nick Selman a Jack Murphy a wynebu’r wyth pelawd olaf, wrth i Forgannwg orffen y diwrnod cyntaf ar 26-0.