Mae dau o Gymry ifanc tîm criced Morgannwg wedi cael cytundebau blwyddyn o hyd yn dilyn eu hymdrechion i’r tîm cyntaf y tymor diwethaf.
Ac, yn ôl Prif Weithredwr y sir, mae eu llwyddiant yn ychwanegu at grŵp o chwarawyr ifanc sydd, meddai yn argoli’n dda at y dyfodol.
Daeth Jack Murphy a Connor Brown drwy rengoedd Academi’r sir ac fe gafodd y ddau ychydig gêmau i’r sir yn ystod y gymor diwetha’.
Y chwaraewyr
Roedd Connor Brown o Gaerffili wedi agor y batio i Forgannwg yn eu dwy gêm olaf yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan sgorio 35 yn ei gêm gynta’ a rhannu partneriaeth allweddol o 96 yn y llall.
Dyma ail gytundeb proffesiynol Jack Murphy gyda’r sir, ar ôl chwarae yn ei gêm undydd gyntaf i Forgannwg yn erbyn Swydd Sussex yn Llandrillo yn Rhos y llynedd. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf yn erbyn yr un sir yn y Bencampwriaeth a chael dwy gêm arall.
Mae’r Awstraliad ifanc, y wicedwr Tom Cullen, hefyd wedi derbyn cytundeb blwyddyn
‘Argoeli’n dda at y dyfodol’
“Mae’r tri chwaraewr i gyd wedi dangos cynnydd dros y 12 mis diwetha’,” meddai Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris.
“Perfformion nhw i gyd yn dda o dan Steve Watkin yn yr ail dîm ac roedden nhw’n haeddu eu cyfleoedd i chwarae i’r tîm cyntaf pan ddaethon nhw.
“Gyda’r chwaraewyr ifainc hyn yn dod i mewn i’r tîm cyntaf, ynghyd ag Aneurin Donald, Lukas Carey a Kiran Carlson – sydd wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r sir yn ddiweddar – mae gyda ni grŵp cyffrous o chwaraewyr ifainc yn y clwb, sy’n argoeli’n dda at y dyfodol.”