Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi awgrymu y bydd Daniel James, un o chwaraewyr ifainc yr Elyrch, yn cael cyfle arall yn y garfan wrth i Burnley ymweld â Stadiwm Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.
Yn enedigol o Swydd Efrog, dechreuodd ei yrfa gyda Hull. Ond mae’r chwaraewr canol cae yn gymwys i gynrychioli Cymru am fod ei dad yn enedigol o Aberdâr, ac fe ymunodd ag Abertawe yn 2016.
Fe greodd e gryn argraff gyda chwip o gôl nos Fawrth wrth i’r Elyrch drechu Notts County o 8-1 yn y gêm ail gynnig ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Gyrfa lwyddiannus hyd yn hyn
Fe fu ar y fainc i’r tîm cyntaf ddwywaith o’r blaen – unwaith yn erbyn Rhydychen mewn gêm gwpan a’r tro arall yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Stoke, a’r ddwy gêm yn 2016.
Roedd e’n aelod allweddol o garfan yr Elyrch wrth iddyn nhw ennill Cynghrair Ddatblygu 2 yr Uwch Gynghrair yn 2015, gan fynd ymlaen i godi tlws Uwch Gynghrair Adran 2 a Chwpan yr Uwch Gynghrair gyda’r tîm dan 21.
Roedd ei amryw berfformiadau wedi dal sylw cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman wrth iddo ei alw i garfan Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, er nad oedd e wedi chwarae.
Cafodd e flas ar gystadleuaeth gyda Chymru yng Nghwpan Toulon gyda thîm dan 20 Cymru, gan rwydo yn y gêm yn erbyn Bahrain.
Mae e hefyd wedi cael cyfnod aflwyddiannus ar fenthyg yn Amwythig, ond fe fydd hynny wedi’i anghofio os daw cyfle arall iddo serennu ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr wrth i’r Elyrch deithio i hen glwb Carlos Carvalhal, Sheffield Wednesday ar Chwefror 17.
A ddaw cyfle arall?
Wrth drafod gobeithion Daniel James o gael cyfle arall yng nghrys Abertawe y tymor hwn, dywedodd Carlos Carvalhal: “Fe fyddwn ni’n dewis y chwaraewyr sydd ar gael [i herio Burnley], a’r unarddeg chwaraewr gorau i geisio ennill y gêm. Ac fe fydd gyda ni chwaraewyr ar y fainc i geisio helpu’r tîm.
“Yn sicr, ymhen wythnos fe fydd gyda ni gêm gwpan arall ar y teledu [yn erbyn Sheffield Wednesday] a bydd yr holl chwaraewyr yn chwarae rhan eto. Nid mater o opsiynau’n unig yw deinameg y tîm. Os nad yw un yn chwarae ddydd Sadwrn, fe fydd yn cael chwarae’r wythnos nesaf ac mae hynny’n bwysig i ni.
“Ond mae’r holl chwaraewyr yn barod i chwarae. Mae dau chwaraewr ychwanegol ar gael hefyd [Andy King ac Andre Ayew]. Mae cystadleuaeth yn dda ac yn iach. Does dim gormod o chwaraewyr gyda ni, ond mae pawb yn barod.”
Hyder – a chyfle i’r to iau
Dywedodd fod Cwpan FA Lloegr yn gyfle da i weld rhai o’r chwaraewyr ifainc yn chwarae gyda’r tîm cyntaf, ond fe bwysleisiodd fod rhaid iddyn nhw berfformio’n dda er mwyn cael eu cyfle eto.
“Pan ddaw cyfle, fe wnawn ni hynny, wrth gwrs. Dw i ddim yn berson sy’n credu bod rhaid dewis bois ifainc. Rhaid i’r bois ifainc haeddu cael chwarae. Weithiau mae’n rhaid troi at yr Academi, ond dydy hynny ddim yn bwysig.
“Y peth pwysig yw ansawdd y chwaraewyr. Os ydyn nhw’n fois o safon, gadewch i ni eu gwthio nhw i chwarae. Oherwydd weithiau, rydych chi’n troi at yr Academi a does yna neb o ansawdd.
“Gall clwb roi pwysau ar reolwr i ddewis bois o’r Academi ond os yw’r chwaraewyr eraill yn well na nhw, bydd y rheolwr eisiau ennill y gêm [a pheidio’u dewis nhw].
“Gobeithio yn y dyfodol y bydd rhagor o’r bois gyda ni. Ond mae’n dibynnu ar eu hansawdd nhw. Mae 12 neu 13 ohonyn nhw’n ymarfer gyda ni. Maen nhw’n perthyn i’r brif garfan oherwydd mai chwaraewyr Abertawe ydyn nhw. Pwy a wyr, efallai y bydd eu hangen nhw arnon ni eto yn y dyfodol.”