Wrth i dîm criced Awstralia ennill ail gêm brawf Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Adelaide, cafodd batiwr tramor Morgannwg, Shaun Marsh ei enwi’n seren y gêm.
Tarodd y batiwr llaw chwith, fydd yn dychwelyd i Gymru y tymor nesaf, 126 heb fod allan yn y batiad cyntaf wrth i’w dîm gyrraedd cyfanswm o 442-8 cyn cau’r batiad.
Fe ddaeth ei sgôr oddi ar 231 o belenni, ac roedd e wrth y llain am chwech awr namyn dwy funud wrth daro 15 pedwar ac un chwech.
Sgoriodd Lloegr 227 yn eu batiad cyntaf ac roedd ganddyn nhw lygedyn o obaith ar ôl i gapten Awstralia, Steve Smith benderfynu peidio â’u gorfodi i ganlyn ymlaen.
Cafodd Awstralia eu bowlio allan am 138 yn eu hail fatiad, gan osod nod o 354 i Loegr am y fuddugoliaeth.
Er bod capten Lloegr, Joe Root wedi sgorio 67, fe gollon nhw eu chwe wiced olaf y bore ma wrth gael eu bowlio allan am 233, a cholli yn y pen draw o 120 o rediadau.
Fe fydd rhaid i Loegr ennill y tri phrawf olaf yn Perth, Melbourne a Sydney er mwyn ennill y gyfres o 3-2. Ond gallen nhw gael cyfres gyfartal a chadw eu gafael ar dlws y Lludw.