Fe allai Clwb Rygbi Caerfaddon gael dirwy am ryddhau wythwr Cymru, Taulupe Faletau, ar gyfer gemau’r hydref.
Fe chwaraeodd e yn y gêm yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, wrth i Gymru golli o 24-22.
Nid yw bwrdd rheoli’r gêm, World Rugby, yn gwrthod hawl i ryddhau chwaraewyr.
Ond mewn datganiad, dywedodd Premiership Rugby, y corff sy’n rheoleiddio timau Uwch Gynghrair Lloegr, fod gan Gaerfaddon saith niwrnod i ymateb i’r cyhuddiad.