Ar ddiwrnod olaf eu prawf yn erbyn Essex heddiw, bydd Morgannwg yn ail gychwyn eu hail fatiad ar y blaen o 162 o rediadau.

Er gwaethaf brwydro brwd Essex ddoe, ac ail 100 y tymor i Owais Shah (118), gorffennodd Essex eu batiad â phawb allan ar 363 ac yn dal i fod ar ei hol hi.

Yna fe lwyddodd Alviro Petersen a William Bragg i gyrraedd 50 yr un, wrth i Forgannwg ddod â’r trydydd diwrnod i ben yn Stadiwm Swalec gyda chyfanswm o 126-1 wedi 399 yn eu batiad cyntaf.

Cofio un o gewri Morgannwg

Gwisgodd chwaraewyr Morgannwg fandiau du ar eu breichiau er cof am Allan Watkins, cyn- chwaraewr amryddawn Morgannwg a Lloegr, fu farw ddydd Mercher yn 89 oed.

Cafodd Watkins 15 cap i Loegr rhwng 1948 ac 1952. Ef oedd chwaraewr cynatf  Morgannwg i ymddangos yng nghyfres ‘y Lludw’, a hefyd y cyntaf  o Forgannwg i gael 100 i Loegr mewn prawf yn erbyn De Affrica yn 1949.

Sgoriodd 17,419 o rediadau a chymryd 774 wiced yn ei 407 o gemau i Forgannwg rhwng 1939 a 1962.

Cafwyd munud o dawelwch er cof amdano yn ystod yr egwyl ginio ddoe.