Simon Jones - aros am bythefnos
Mae Morgannwg wedi cael caniatâd i gadw’r bowliwr cyflym Simon Jones am bythefnos arall.
Mae Jones wedi bod gyda Morgannwg am tua mis eisoes, ar gyfer y gêmau Ugain20, ond roedd disgwyl iddo fynd yn ôl at glwb Hampshire ddydd Mercher.
Bellach, ar gais Morgannwg, mae’r cyfnod benthyg wedi ei ymestyn, sy’n golygu y bydd gan Jones hawl i chwarae yn yr ornest 40 pelawd hollbwysig nesaf yn erbyn Essex yn Chelmsford.
‘Gwneud eu gorau’
Roedd hyfforddwr Morgannwg, Mathew Mott, eisoes wedi datgan fod y clwb yn gwneud eu gorau i sicrhau y gall Jones aros yn Ne Cymru mor hir â phosib.
Roedd wedi ymddangos mewn 10 gem Ugain20 ac wedi llwyddo i gymryd 10 wiced yn y cyfnod hwnnw.
Yn ogystal â gêm Essex, fe fydd Jones ar gael ar gyfer gêm Pencampwriaeth LV= yn erbyn Northamptonshire ar Orffennaf 27 a’r ornest 40 pelawd nesaf yn erbyn Nottinghamshire ar Orffennaf 31ain.
Mae’n hen ffefryn ym Morgannwg, lle dechreuodd ei yrfa, gan ddilyn yn ôl traed ei dad, y bowliwr cyflym Jeff Jones.
Pwynt yr un
Roedd Jones yn y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn yr Unicorns Ddydd Sul yn stadiwm Swalec, ond bu rhaid ei diddymu oherwydd glaw. O ganlyniad, mae’r ddwy ochr yn derbyn pwynt yr un.
Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 45-2 oddi ar 11.1 pelawd pan ohiriwyd y chwarae am y tro olaf. Mae’r penderfyniad i ganslo’r gêm yn ergyd i’w gobeithio o adennill tir yng ngrŵp C y bencampwriaeth 40 pelawd a noddwyd gan Fanc Clydesdale.