Mark Williams (Gwifren PA)
Roedd Mark Williams a Matthew Stevens yn siomedig ar ôl methu ag ennill Cwpan Snwcer y Byd i Gymru.
Roedden nhw’n rho’r bai ar y ffaith fod gêmau’n fyr iawn – y gorau o bump ffrâm – ac maen nhw’nm dweud ei bod yn anodd cymryd y gystadleuaeth o ddifri.
Fe gollodd y ddau o 4-1 yn erbyn China yn y rownd gyn derfynol yn Bangkok, cyn i China fynd ymlaen i gipio’r teitl.
Gobeithio ennill
Roedd y gêm yn agosach nag yr oedd y sgôr yn ei awgrymu ond roedd y ddau Gymro wedi gobeithio o ddifri y bydden nhw’n ennill y teitl.
“Yn amlwg, r’yn ni’n siomedig ein bod ni wedi colli, ac roedd y ddau ohonon ni’n teimlo’n hyderus y bydden ni’n gallu ennill,” meddai Mark Williams wedi’r ornest.
“Mae’r tri ffefryn – Cymru, Yr Alban a Lloegr – allan ohoni, ond petaen nhw’n gêmau gorau o naw, dw i’n siŵr y byddai’r Alban a ninnau’n dal ynddi.”
Stevens yn cytuno
Ychwanegodd Mathew Stevens: “Gyda’r fformat byr yr oedd rhaid i ni chwarae, roedd y llinell rhwng ennill a cholli yn gul iawn. Gall unrhyw un ennill y twrnamaint gyda fformat fel yma.
“Gollson ni ddwy gêm ar y bêl ddu, ond wnaethon ni ddim llawer yn anghywir heblaw am hynny. Fyddai hi wedi gallu mynd ein ffordd ni’n ddigon hawdd.
“Roedd yr wythnos yma’n lot o hwyl, ond mae hi’n anodd ei chymryd hi o ddifrif pan mae’r gêmau mor fyr.”