Brendan Rodgers
Fe ddaeth chwaraewr ‘coll’ Abertawe yn ôl i chwarae chwarter awr yn un o ddwy gêm baratoi’r clwb ddoe.

Roedd y chwaraewr canol cae Ferrie Bodde’n mynnu ei fod yn holliach ar ôl cael ychydig funudau yn erbyn Port Talbot.

Dyna oedd y bwriad o’r dechrau, meddai, ac yntau wedi bod allan o’r gêm am tua blwyddyn oherwydd dau anaf.

Yn ystod ei chwarter awr, fe lwyddodd i greu gôl i Craig Beattie, wrth i’r Elyrch ennill 3-1. Angel Rangel a Kurtis March a gafodd y ddwy arall.

Ond colli wnaeth Abertawe yn yr ail gêm, o 0-1 i Gastell Nedd.

Rhannu’r sgwad

Roedd y ddwy gêm wedi’u trefnu ar yr un diwrnod yn rhan o baratoadau’r Elyrch ar gyfer eu tymor cynta’ yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd y rheolwr, Brendan Rodgers, wedi rhannu ei sgwad yn ddau ac fe gafodd chwech o chwaraewyr eu gêmau cynta’ tros y clwb.

Ond mae yna bryder a fydd amddiffynnwr yr Elyrch, Gary Monk, yn gallu chwarae ar ddechrau’r tymor, oherwydd anaf o’r tymor diwetha’.

Bodde – y cefndir

Ferrie Bodde oedd un o arwyr Abertawe yn y tymhorau cyn y diwetha’, ond dyw e ddim wedi chwarae gêm lawn i Brendan Rodgers eto.

Fe ddywedodd ddoe y byddai’n cymryd ei amser wrth ddod yn ôl i ffitrwydd llawn.