Gareth Rees
Gloucestershire 133 Morgannwg 67-2
Fe lwyddodd Morgannwg i orffen tymor siomedig yn yr Ugain20 gyda buddugoliaeth yn y glaw yn erbyn Gloucestershire.
Roedd y tîm o Gaerloyw wedi sgorio 133 ac, o dan drefniant Duckworth Lewis, fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd eu targed is gyda phelawd wrth gefn.
Y bowlwyr oedd yr arwyr eto wrth i Will Owen ac Alex Jones gael tair wiced yr un, ac roedd yna ddwy hefyd i Simon Jones.
Will Owen oedd chwaraewr gorau’r gêm wrth gael tair wiced am 21 a’r batiwr llwyddiannus oedd Gareth Rees, gyda 30. Roedd hynny’n cynnwys dau chwech mewn pelawd yn erbyn y troellwr Muralitharan,
Fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd 67-2 mewn saith pelawd.