Alvrio Petersen
Fe lwyddodd Morgannwg i ddechrau eu tymor Ugain20 gyda buddugoliaeth – er bod y llifoleuadau wedi methu yn Stadiwm Swalec am tuag 20 munud.

Oherwydd hynny, y system Duckworth Lewis oedd hi wrth i’r tîm cartre’ ennill o 45 rhediad.

Ac yntau wedi cael ei recriwtio i lwyddo yn y gêmau byr, y capten Alviro Petersen oedd yr arweinydd gyda sgôr o 72 wrth i Forgannwg gyrraedd 199-4.

Fe gafodd gymorth gan Jim Allenby, gyda 42, a Mark Cosgrove yn cael 31 yn ei gêm gynta’ tros y sir y tymor yma. Ac fe gafodd Chris Cooke 22 rhediad o chwe phêl ar y diwedd.

Y bowlwyr yn taro

Roedd y perfformiad yn y maes yr un mor effeithiol, gyda Middlesex yn y diwedd yn anelu at darged o 183.

Fe gyrhaeddon nhw’r 100 mewn 12 pelawd, un pelawd yn gynt na Morgannwg ond fe drawodd y bowlwyr i gael gwared arnyn nhw am 137.

Ymhlith y perfformiadau da, roedd yna dair wiced i Alex Jones ac un daliad rhyfeddol gan yr ‘hen ddyn’ Robert Croft.