Mae yna adroddiadau bod y Celtic Crusaders am geisio arwyddo mewnwr Cymru Mike Phillips. 

 Yn ôl papur newydd The Sun mae clwb rygbi’r gynghrair wedi gwneud cynnig swyddogol i’r Cymro 28 oed symud i gêm y gynghrair. 

 Mae’r clwb o Wrecsam yn credu y byddan nhw’n cael ateb gan Phillips o fewn yr wythnos i ddeg diwrnod nesaf. 

 Mae’r Crusaders yn awyddus i arwyddo chwaraewr enwog ar ôl i Gareth Thomas lwyddo cystal ar ôl gadael rygbi’r undeb am y Cae Ras. 

 Fe fyddai arwyddo Phillips hefyd yn rhoi hwb i’r tîm rhyngwladol o flaen Cwpan y Byd yn 2013. 

 Mae’r Gweilch eisoes wedi dweud bod hawl gan Mike Phillips i adael y rhanbarth os y gall ddod o hyd i glwb newydd.  Mae’r Llew wedi cael ei gysylltu gyda’r clwb Ffrengig Bayonne hefyd.