Mae Warren Gatland wedi canmol cyfraniad y maswr Stephen Jones i dîm Cymru wrth iddo ennill ei ganfed cap yn erbyn y Barbariaid yfory, gan ddweud bod y maswr profiadol yn dal i drio gwella’i gêm wedi 13 o flynyddoedd yn chwarae rygbi rhyngwladol.
Gareth Thomas yw’r unig chwaraewr arall yn hanes rygbi Cymru i ennill 100 o gapiau dros ei wlad.
Enillodd Stephen Jones ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica yn 1998, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o garfan y Llewod ar eu teithiau i Seland Newydd yn 2005 a De Affrica yn 2009.
“Gallwch chi byth cwrdd â boi neisach. Safle’r maswr yw’r un anoddaf i fod ynddo. Mae pobl naill yn eich cefnogi neu ddim – maen nhw’r un ffordd neu’r llall,” meddai Warren Gatland.
“Mae wedi bod yn wych i ni, a’r peth da amdano yw ei fod yn dal yn gweithio ac eisiau gwella. Mae wedi gwasanaethu Cymru yn ardderchog.
“Mae Stephen wedi cyrraedd carreg filltir arbennig ac mae’n haeddu pob clod, mae’n chwaraewr pwysig iawn i ni ac fe fydd yn parhau i fod felly dros y misoedd nesaf. Mae’n benderfynol o ganolbwyntio ar Gwpan y Byd ac ar y gêmau sydd o’i flaen.”
Aeth ei hyfforddwr rhanbarthol Nigel Davies ati i longyfarch Jones ar ei lwyddiant hefyd.
“Mae Stephen wedi dangos dro ar ôl tro ei fod yn chwaraewr penigamp, mae wedi perfformio ar y lefel uchaf yn gyson ac mae ei record yn rhanbarthol ac ar lefel rhyngwladol yn dweud y cyfan,” meddai hyfforddwr y Scarlets.
“Mae ganddo brofiad heb ei ail ac mae’n llawn haeddu’r llwyddiant a’r clod y bydd yn ei dderbyn wrth gyrraedd ei ganfed gap.
“Mae’n anrhydedd ac yn brawf o’i ymrwymiad fel chwaraewr ei fod ar frig yr anrhydeddau gyda ni fan hyn y Scarlets ac ar lefel rhyngwladol.
“Fe fydd y profiad hwn yn rhoi egni pellach iddo – mae digon o waith o’i flaen, fe fydd yn chwarae rôl allweddol i ni’r tymor nesaf.”