“Penderfyniad i’r awdurdodau criced perthnasol ac nid i Lywodraeth Cymru” yw a ddylai Cymru gael tîm criced cenedlaethol, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Daw ei neges mewn llythyr at holl Aelodau’r Cynulliad yr wythnos hon, yn dilyn y trafodaethau diweddaraf ym mis Mehefin.
Daeth cadarnhad gan Glwb Criced Morgannwg heddiw y byddan nhw’n cynnal gemau rhwng Lloegr ac Awstralia, a Lloegr ac India yng Nghaerdydd y tymor nesaf.
Ond Cymru yw’r unig un o wledydd Prydain sydd heb dîm criced cenedlaethol. Mae Lloegr ac Iwerddon yn dimau prawf llawn, tra bod gan yr Alban statws tîm undydd.
Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddechrau’r haf, wrth ymateb i gwestiwn yn y Senedd, y byddai’n croesawu sefydlu tîm i chwarae mewn gemau undydd.
Effaith ar Forgannwg
Ond fe ddywedodd fod hynny’n ddibynnol ar sicrhau na fyddai goblygiadau ariannol i Glwb Criced Morgannwg a’u gallu i chwarae o fewn strwythur sirol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Yn ystod ymgynghoriad, fe nododd y clwb a chorff Criced Cymru y byddai sefydlu tîm Cymru’n cael effaith negyddol ar Forgannwg wrth iddyn nhw geisio denu tîm criced Lloegr a gemau rhyngwladol eraill i Gaerdydd bob tymor.
Dywedodd llefarydd ar ran Criced Cymru wrth golwg36o ddechrau’r tymor hwn nad oedd sefydlu tîm criced i Gymru’n “opsiwn“.
Cynnig eglurhad
Yn ei lythyr, ychwanega Ken Skates: “Er hynny, mae Criced Cymru wedi cynnig egluro’r sefyllfa yn fanylach i unrhyw aelod, yn bersonol, pe byddai ganddynt ddiddordeb.
“Byddai fy swyddogion yn barod iawn i hwyluso unrhyw gyfarfod o’r fath. Rwy’n gobeithio bod hyn yn egluro’r sefyllfa.”