Doedd hi ddim yn bosib dechrau’r gêm Bencampwriaeth rhwng Swydd Derby a Morgannwg unwaith eto ar yr ail ddiwrnod heddiw.
Er bod yr haul allan yn Derby, roedd rhannau o’r cae yn wlyb o hyd pan aeth y dyfarnwyr Billy Taylor a Graham Lloyd allan ar gyfer archwiliad am 11 o’r gloch.
Roedden nhw’n gofidio am ddiogelwch y chwaraewyr.
Dydy’r rhagolygon ar gyfer y trydydd diwrnod yfory ddim fawr gwell.
Dydy Swydd Derby ddim wedi ennill gêm gartref yn y Bencampwriaeth ers 2014.
Y diwrnod cyntaf
Penderfynodd y dyfarnwyr gymryd cinio cynnar am 12 o’r gloch ar y diwrnod cyntaf oherwydd y glaw.
Ond yn dilyn archwiliad am 1.30pm, daethon nhw i’r casgliad fod y cae yn rhy wlyb ac na fyddai’n sychu’n ddigonol.