Does dim lle yng ngharfan Morgannwg i Aneurin Donald nac Owen Morgan ar gyfer eu gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Swydd Derby – gêm gyntaf mis Medi, sy’n dechrau am 10.30 yn hytrach nag 11 o’r gloch.
Dim ond pum Cymro sydd yn y garfan 12 dyn, wrth i Jacques Rudolph, Colin Ingram, Chris Cooke a Marchant de Lange ddychwelyd.
Fe benderfynodd y prif hyfforddwr Robert Croft na fydden nhw’n chwarae yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Sussex ym Mae Colwyn yr wythnos diwethaf, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn Edgbaston.
Roedd hynny’n golygu bod y Cymro Cymraeg o Bontarddulais, Owen Morgan wedi agor y batio ac fe ddaeth Jack Murphy i mewn i’r garfan i ymuno â Kiran Carlson, Andrew Salter, Connor Brown, Ruaidhri Smith (sy’n cynrychioli’r Alban) a Lukas Carey.
Ond y tro hwn, dim ond Jack Murphy, Kiran Carlson, Andrew Salter, Ruaidhri Smith a Lukas Carey sydd wedi cael eu dewis.
Hefyd yn gadael y garfan am y tro mae’r wicedwr o Awstralia, Tom Cullen wrth i Chris Cooke, un arall o Dde Affrica, ddychwelyd i’r garfan.
Cymysgedd o chwaraewyr ifainc a phrofiadol
Yn ôl y prif hyfforddwr Robert Croft, mae e’n awyddus i gynnwys cynifer o chwaraewyr ifainc â phosib yn y garfan, ond mae’n dweud bod angen chwaraewyr profiadol wrth eu hochr hefyd.
Mae e wedi dewis chwe chwaraewr o dan 24 oed ar gyfer y gêm gyntaf o’r pedair sy’n weddill cyn diwedd y tymor a does ganddyn nhw fawr o obaith o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf ac felly mae’n gweld y gemau hyn fel cyfle i rai o’r to iau.
“Dyw e ddim yn realistig i ni fynd lan felly ry’n ni eisiau rhoi cyfle i’r chwaraewyr iau achos mae angen ffeindio ma’s lle maen nhw arni a rhoi profiad iddyn nhw am y dyfodol.
“Ond mae angen cydbwysedd a digon o brofiad o’u cwmpas nhw.
“Ro’n i’n edmygu’r ffordd wnaethon nhw frwydro yn erbyn Swydd Sussex ym Mae Colwyn yn fawr ac mae’n rhywbeth ry’n ni eisiau adeiladu arno yn y tîm hwn, y ffaith fod tîm Morgannwg yn brwydro am bopeth sydd ar gael.”
Gemau’r gorffennol
Aeth Morgannwg a Swydd Derby ben-ben yng Nghaerdydd fis Mehefin yn y gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed o dan y llifoleuadau, a’r ymwelwyr oedd yn fuddugol bryd hynny o 39 rhediad. Cipiodd y troellwr 16 oed, Hamidullah Qadri bum wiced yn ei gêm gyntaf erioed dros y Saeson.
Gêm gyfartal gawson nhw yn Derby y tymor diwethaf mewn gêm a gafodd ei chynnal mewn bob math o dywydd – o genllysg i eira. Daeth eu gêm yn Chesterfield yn 2015 i ben yn gyfartal hefyd.
Yn wir, dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Derby yn y Bencampwriaeth yn Derby ers 2006, pan sgoriodd yr Awstraliad Mark Cosgrove – capten Swydd Gaerlŷr erbyn hyn – 233, ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf, i sicrhau’r fuddugoliaeth o chwe wiced.
Mae Morgannwg wedi colli bedair gwaith yn eu pump ymweliad blaenorol â’r ddinas.
Ymhlith carfan Swydd Derby mae Harry Podmore, y bowliwr cyflym a dreuliodd gyfnodau ar fenthyg gyda Morgannwg ddechrau’r tymor diwethaf ac eleni tra ei fod e gyda Swydd Middlesex. Mae e ar fenthyg gyda Swydd Derby ar gyfer mis ola’r tymor.
Carfan Swydd Derby: B Godleman (capten), L Reece, B Slater, W Madsen, A Hughes, M Critchley, G Wilson, H Hosein, T Milnes, T Palladino, H Vilijoen, H Podmore, W Davis, Imran Tahir, Hamidullah Qadri
Carfan Morgannwg: J Rudolph, N Selman, J Murphy, C Ingram, K Carlson, C Cooke, A Salter, C Meschede, M de Lange, L Carey, M Hogan (capten), R Smith