Taith Baton Gemau'r Gymanwlad Cymru (Llun: Team Wales)
Saith mis cyn Gemau’r Gymanwlad, mi fydd y baton yn dechrau ei daith o amgylch Cymru heddiw.
Bydd y baton yn cyrraedd Abertawe fore ddydd Mawrth (Awst 5) cyn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
Yn ystod y daith pedwar diwrnod o hyd mi fydd y baton hefyd yn ymweld â threfi ym Mhowys, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Conwy a Gwynedd.
Bydd y baton yn teithio 350 milltir wrth iddo ymlwybro trwy Gymru a dyma fydd ei daith bellaf erioed ar draws y wlad.
Cyn cyrraedd lleoliad y Gemau yn Awstralia, o fewn 388 diwrnod mi fydd y baton wedi teithio cyfanswm o 200,000 milltir dros 71 gwlad.
“Cefnogaeth lwyr”
“Wrth baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018, mi fydd athletwyr yn derbyn cefnogaeth lwyr bobol Cymru gyda’r momentwm daw o daith y baton,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld pawb yn dod ynghyd i ddathlu eu cymunedau, i gefnogi ein hathletwyr ac i ddangos yr hyn mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn medru ei chynnig.”