Mae Morgannwg wedi codi i frig tabl cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ar ôl trechu Swydd Gaerloyw o 25 o rediadau ym Mryste. Tarodd David Miller hanner canred yn ei gêm gyntaf i’r Cymry, ac roedd hanner canred hefyd i’r capten a’i gydwladwr Jacques Rudolph (51), a chanfed wiced T20 i Graham Wagg.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, cafodd Morgannwg ddechrau digon sigledig i’r batiad, gan golli dwy wiced yn gynnar. Yn absenoldeb David Lloyd, agorodd Aneurin Donald y batiad ac fe ddangosodd ei ddiffyg profiad wrth gael ei hun allan wrth fachu’r bêl i Thisara Perera oddi ar fowlio David Payne am wyth, belen yn unig ar ôl cael ei ollwng gan y maeswr wrth geisio’r un ergyd.
Ar ôl taro canred yn ei ddwy gêm ugain pelawd ddiwethaf, roedd perfformiad Colin Ingram yn un siomedig wrth iddo yntau golli ei wiced am 18, wrth gynnig daliad syml i’r bowliwr Perera cyn diwedd y cyfnod clatsio, a Morgannwg yn 41-2 ar ôl y chwe phelawd gyntaf. Roedd yntau hefyd wedi bod yn ffodus o gael ei ollwng yn gynnar yn ei fatiad, ond fe fethodd â chosbi’r Saeson am y camgymeriad.
Yn ei gêm gyntaf i’r sir, daeth y batiwr llaw chwith o Dde Affrica, David Miller i’r canol i ymuno â’i gapten a’i gydwladwr Jacques Rudolph, ac fe ychwanegon nhw 85 am y drydedd wiced. Fe ddangosodd Miller ei allu ymosodol ar unwaith, gan daro dau chwech anferth, ar ei ffordd i hanner canred oddi ar 32 o belenni. Erbyn iddo fe gyrraedd ei hanner canred, roedd eisoes wedi taro pedwar pedwar a thri chwech. Ond fe gollodd ei wiced un belen ar ôl cyrraedd y garreg filltir, wedi’i ddal ar yr ochr agored gan Kieran Noema-Barnett oddi ar fowlio David Payne am 50, a chyfanswm Morgannwg yn 124-3.
Daeth hanner canred Rudolph oddi ar 44 o belenni yn ystod yr ail belawd ar bymtheg, ac roedd e, erbyn hynny, wedi taro pedwar pedwar ac un chwech. Ond fe ddaeth ei fatiad i ben ar 51 oddi ar 45 o belenni, wedi’i ddal gan Benny Howell oddi ar fowlio Perera ar ôl taro ergyd syth a’r cyfanswm yn 141-4. Aeth Chris Cooke yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Jack Taylor ar ochr y goes wrth fachu oddi ar fowlio Noema-Barnett am chwech, a Morgannwg yn 142-5. Ychwanegodd Craig Meschede a Graham Wagg 34 cyn diwedd y batiad, wrth i’r Cymry orffen ar 176-5 yn eu hugain pelawd.
Ymateb y Saeson
2.5 o belawdau’n unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf, wrth i Michael Hogan fowlio Phil Mustard am ddau, a’r sgôr yn 19-1. Ond ar ôl i Ian Cockbain ymuno â Michael Klinger, fe lwyddodd y Saeson i gyrraedd 48-1 erbyn diwedd chwe phelawd y cyfnod clatsio.
Ond fe gollodd Ian Cockbain ei wiced yn y belawd nesaf oddi ar fowlio Craig Meschede, gyda’r wicedwr Chris Cooke yn sicrhau’r daliad oddi ar ergyd yn syth i’r awyr. A dilynodd y drydedd wiced yn y belawd nesaf wrth i George Hankins ddarganfod dwylo diogel Timm van der Gugten ar ymyl y cylch ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr coes Colin Ingram, a Swydd Gaerloyw’n 54-3.
Ond roedd Michael Klinger yn dal yno ac yn clatsio drwy gydol y batiad, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 33 o belenni, gan gynnwys dau bedwar a phedwar chwech. Ond fe gafodd ei fowlio am 52 oddi ar y belen nesaf gan Timm van der Gugten, a Swydd Gaerloyw’n 99-4.
Ychwanegodd Jack Taylor a Benny Howell 23 cyn i Colin Ingram ddal Taylor ar y ffin oddi ar ergyd syth, a Graham Wagg yn cipio’i ganfed wiced mewn gemau ugain pelawd. Daeth y chweched wiced yn fuan wedyn ar 127, wrth i Thisara Perera gael ei ddal gan Rudolph oddi ar fowlio Marchant de Lange. Daeth batiad Benny Howell i ben am 27 wrth i Marchant de Lange ei ddal ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r Saeson yn 138-7.
Morgannwg oedd yn fuddugol yn y pen draw, a hynny o 25 o rediadau, er i Kieran Noema-Barnett daro 18 yn hwyr yn y batiad.
Bowlwyr yn plesio Morgannwg
Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Ro’n i’n meddwl wrth fatio ei bod hi’n anodd asesu’r amodau. Roedd 17o yn sgôr da i ni.
“Ond rhaid canmol ein bowlwyr ni heddiw. Roedd y ffordd y gwnaethon nhw ymlacio a chipio wicedi’n golygu bod gyda ni fowlwyr sydd â’r ‘X factor’ sy’n helpu yn y fformat yma.”
Wrth ganmol y batiwr David Miller, ychwanegodd y capten: “Mae’n fonws i’w gael e yn y tîm y tu ôl i Colin [Ingram] sydd wedi bod yn rhagorol.
“Mae gyda ni chwaraewyr â’r ‘X factor’ gyda’r bat sy’n gallu taro ergydion mawr am chwech. Dw i wedi batio dipyn gyda David ac roedd e’r un fath ag arfer heddiw.
“Mae Colin naill ai’n cyfyngu’r gwrthwynebwyr neu’n cipio wicedi ac mae’n ddal cael rhywun sy’n gallu camu i fyny a gwneud hynny.”
David Miller yn teimlo’n “gartrefol”
Ar ôl ei gêm gyntaf i Forgannwg, dywedodd David Miller: “Dyw hi ddim wedi bod yn anodd [ymgartrefu]. Mae nifer o chwaraewyr o Dde Affrica yma felly dw i’n teimlo’n gartrefol.
“Dw i ddim wedi bod yma’n hir ac felly dw i’n dal i setlo, ond mae popeth wedi bod yn dda mor belled. Mae’r awyrgylch yn yr ystafell newid yn dda, ac fe fydd yn well fyth os ydyn ni’n parhau i ennill.”
Wrth drafod y llain, oedd yn wyrddach o lawer nag arfer, ychwanegodd: “Roedd pethau’n eitha’ diddorol ond doedd e’n ddim byd dw i ddim wedi ei weld o’r blaen.
“Doedd hi ddim yn troi llawer ac roedd hi wedi arafu tua’r diwedd, felly rhaid canmol ein bowlwyr ni.”