Mae 70 o redwyr yn wynebu her eithafol Ultra Pen Llŷn ddydd Sadwrn. Mae’r digwyddiad yn ei ail flwyddyn. Yn 2016, ers i 42 o redwyr ddechrau’r her, dim ond 20 gyrhaeddodd y llinell derfyn.
Syniad Huw Williams, sy’n dod o Bwllheli, ydy’r Ultra Pen Llŷn ac mae’n hynod o falch gyda’r ymateb i’r digwyddiad.
‘Denu pobl i’r ardal’
“Roeddwn yn hwylio arfordir Pen Llŷn ac yn meddwl am y syniad o ddenu pobl i’r ardal gan drefnu’r Ultra,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n rhedeg fy hun ac wedi gweld sut mae digwyddiadau fel ‘ma yn llwyddiant mewn ardaloedd eraill – felly pam ddim? Pan feddyliais am yr Ultra buaswn wedi bod yn hapus pe bai un yn cymryd rhan felly i gael 40 yn y flwyddyn gyntaf roeddwn yn falch.
“Y tro hyn mae’n faes rhyngwladol gyda chystadleuwyr o Ddenmarc ac Israel. Hefyd ma dros 70 yn cymryd rhan ac rwy’n eitha’ sicr bydd amser enillydd y llynedd, Gwyn Owen, yn cael ei guro. Roedd amser Gwyn o 15 awr 32 munud yn wych am y flwyddyn gyntaf ond rwy’n sicr bydd rhywun yn mynd o dan 15 awr. Tydi rhedwyr o dramor ddim yn teithio os nad ydyn nhw’n bwriadu ennill.
“ Roedd dros hanner y cystadleuwyr ddim wedi gorffen blwyddyn ddiwethaf. Nid oes cywilydd yn hyn. Mae nifer o ffactorau yn gallu amharu ar y corff mewn her eithafol. Mae’r nifer sydd ddim yn gorffen yn dysgu o hyn ac wedyn mynd ymlaen i lwyddo. Mae’n rhaid cofio bod gan y cystadleuwyr 24 awr i gwblhau’r cwrs.”
Marathon des Sables
Does gan Huw Williams ddim ofn her ei hun. Mae newydd gwblhau un o heriau eithaf y byd sef ‘Marathon des Sables’, her eithafol o chwe marathon mewn chwe diwrnod.
”Roedd yn deimlad rhyfedd i fod yn onest, mae rhywun wedi paratoi am fisoedd, wedi canolbwyntio gymaint, roedd dim emosiwn ar ôl ei gwblhau, profiad swreal. Pan oeddwn i’n gweld pobpl gydag anableddau a salwch yn ei gwblhau roedd yn fraint bod ynghlwm â nhw, ac roedd wyth o Gymru yno ac mi wnaethon ni edrych ar ôl ein gilydd.
“Rwy’n gobeithio bydd dydd Sadwrn yn llwyddiant achos mae gennyf gynlluniau i ehangu’r digwyddiad, cael diwrnod i’r teulu, denu mwy o ymwelwyr i’r ardal hardd sydd ar ein stepen drws.”