David Miller (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Fe fydd David Miller yn cynnig “egni newydd” i Forgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, yn ôl ei gydwladwr Colin Ingram.
Mae’r batiwr o Dde Affrica wedi ymuno â’r sir am chwe gêm, sy’n golygu bod ganddyn nhw chwech o chwaraewyr o’r wlad yn y garfan erbyn hyn.
Fydd e ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd heno, ond y gobaith yw y bydd e’n chwarae yn erbyn Eryr Swydd Essex ddydd Sul.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Colin Ingram: “O safbwynt y garfan, mae’n gyffrous dros ben cael rhywun o safon David Miller yn dod i mewn ag egni newydd.
“Ry’n ni wedi cael nifer o anafiadau, felly mae’n dda cael eu disodli nhw gyda phrofiad David.”
Gyrfa undydd
Ac yntau wedi chwarae mewn 52 o gemau T20 rhyngwladol a 99 o gemau undydd rhyngwladol dros ei wlad, mae e hefyd yn brofiadol mewn gemau sirol yn Lloegr ar ôl cyfnodau gyda Swydd Durham a Swydd Efrog yn y gorffennol.
Roedd e’n aelod o dîm Swydd Efrog a gyrhaeddodd Ddiwrnod Ffeinals y T20 Blast yng Nghaerdydd yn 2012.
Mae e hefyd wedi cynrychioli’r St Lucia Zouks yn y Caribî a’r Kings XI Punjab yn India.
Mewn 227 o gemau ugain pelawd, mae e wedi sgorio bron i 5,000 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 34, a chyfradd sgorio o 136.
Ychwanegodd Colin Ingram: “Mae e’n chwaraewr cyffrous sy’n taro’r bêl yn bell. Ry’n ni wedi’i weld e ar y llwyfan rhyngwladol, mae e wedi bod yn chwaraewr rhyngwladol ers amser hir ac mae e wedi bod yn yr IPL, y CPL ac mae e wedi bod yn llwyddiannus yma hefyd.
“Gallwn ni ddisgwyl tân gwyllt ganddo fe ac mae e’n foi gwych i’w gael yn y garfan hefyd. Dw i wedi cyffroi o glywed ei fod e’n ymuno â ni.
“Mae gyda ni dipyn o fomentwm ar ddechrau’r penwythnos ar ôl y fuddugoliaeth [dros Swydd Essex] y penwythnos diwethaf.
“Gyda dwy gêm o flaen ein torf gartref ein hunain, ry’n ni wedi cyffroi o gael chwarae yng Nghaerdydd unwaith eto a gobeithio y gallwn ni gael cwpwl o fuddugoliaethau.”
Morgannwg v Siarcod Swydd Sussex
Mae Morgannwg wedi enwi’r garfan fydd yn herio Swydd Sussex yn y gêm gyntaf o ddwy dros y penwythnos.
Mae Nick Selman wedi cadw ei le ar ôl chwarae yn ei gêm ugain pelawd gyntaf dros y sir yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r ddau Gymro Owen Morgan a Connor Brown wedi cael eu hychwanegu.
Dydy Connor Brown ddim wedi chwarae dros y sir eto ar ôl cael ei gynnwys yn y garfan nifer o weithiau.
Dydy Kiran Carlson na David Lloyd ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Mae’r anafiadau’n golygu y bydd tipyn o faich ar ysgwyddau Colin Ingram yn dilyn ei gant o rediadau yn erbyn Siarcod Swydd Sussex – y cyflymaf yn hanes y sir mewn gemau ugain pelawd – a chan rhediad arall yn erbyn Eryr Swydd Essex yn Chelmsford ddydd Sul diwethaf.
Mae ei berfformiadau’n golygu ei fod e wedi cyrraedd brig y rhestr o chwaraewyr mwyaf gwerthfawr y gystadleuaeth yn ôl Cymdeithas y Chwaraewr Proffesiynol (PCA).
Carfan Morgannwg v Siarcod Swydd Sussex: A Donald, N Selman, C Ingram, J Rudolph (capten), A Salter, C Cooke, G Wagg, C Meschede, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan, O Morgan, C Brown