Mae carfan rygbi merched Cymru wedi ei dewis ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, sy’n dechrau yn Nulyn ar 9 Awst.
Bydd y bachwr Carys Phillips yn parhau i arwain y tîm yn gapten wrth i Gymru herio Seland Newydd, Canada a Hong Kong dros gyfnod byr o wyth niwrnod.
“Mae brwdfrydedd mawr ymhlith y tîm ar gyfer wynebu’r ddwy wlad orau yn y gêm, achos rydych chi’n chwarae rygbi rhyngwladol er mwyn cystadlu yn erbyn y gorau,” meddai’r prif hyfforddwr Rowland Phillips.
Yn ôl yr hyfforddwr, mae’r tîm wedi gwella eu perfformiad wrth chwarae yn erbyn Siapan, Sbaen a Lloegr, yn eu tair gêm cyn y gystadleuaeth.
Elen Evans, Sioned Harries, Shona Powell-Hughes, Elinor Snowsill a Rachel Taylor yw’r aelodau fydd yn cymryd rhan yn eu trydedd Cwpan Rygbi’r Byd.
Ar y llaw arall, mae’r ferch 17 oed Lleucu George, sy’n gobeithio ennill ei chap cyntaf i Gymru yn ystod y bencampwriaeth.
Tîm llawn Menywod Rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2017:
Blaenwyr: Alisha Butchers (Sgarlets); Mel Clay (Gweilch); Amy Evans (Gweilch); Lleucu George (Sgarlets); Cerys Hale (Dreigiau); Sioned Harries (Sgarlets); Morfudd Ifans (Sgarlets); Kelsey Jones (Gweilch); Siwan Lillicrap (Gweilch); Carys Phillips (capten, Gweilch); Shona Powell-Hughes (Gweilch); Gwenllian Pyrs (Sgarlets); Rebecca Rowe (Dreigiau); Rachel Taylor (Sgarlets); Caryl Thomas (Sgarlets); Megan York (Dreigiau).
Cefnwyr: Keira Bevan (Gweilch); Elen Evans (Sgarlets); Jodie Evans (Sgarlets); Rebecca De Filippo (Dreigiau); Dyddgu Hywel (Sgarlets); Hannah Jones (Sgarlets); Jasmine Joyce (Sgarlets); Sian Moore (Dreigiau); Jess Kavanagh-Williams (Sgarlets); Gemma Rowland (Dreigiau); Elinor Snowsill (Dreigiau); Robyn Wilkins (Gweilch).
Gemau Cymru: Seland Newydd v Cymru, Dydd Mercher 9 Awst (14:45), Billings Park UCD; Canada v Cymru, Dydd Sul 13 Awst (17:00), Billings Park UCD; Cymru v Hong Kong, Dydd Iau 17 Awst (17:15), UCD Bowl.