Mae cricedwyr Seland Newydd wedi cael eu cosbi am fowlio’u 50 pelawd yn rhy araf yn eu gêm yn erbyn Lloegr yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd heddiw.

Collon nhw o 87 o rediadau wrth i Loegr sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol.

Roedd dwy belawd yn weddill o’r batiad pan gyrhaeddon nhw’r amser terfyn, ac mae pob chwaraewr wedi derbyn dirwy o 10% o’u ffi ar gyfer pob pelawd oedd yn weddill – sy’n golygu dirwy o 20% yr un.

Ond mae’r gosb wedi’i dyblu i’r capten Kane Williamson, er iddo fe gyfadde’r drosedd ar ddiwedd y gêm.

Pe bai’r gyfradd fowlio’n araf eto yn ystod y gystadleuaeth, fe fydd y capten yn cael ei wahardd am un gêm.