Mae tîm criced Lloegr wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC ar ôl trechu Seland Newydd o 87 o rediadau yng Nghaerdydd.

Roedd cyfraniadau o 64 gan Joe Root, 61 heb fod allan gan Jos Buttler a 56 gan Alex Hales yn ddigon i osod y seiliau wrth i Loegr sgorio 310 i gyd allan ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.

Fe lwyddodd bowlwyr Seland Newydd i fanteisio ar y tywydd yn gynnar yn y dydd, wrth i Adam Milne a Corey Anderson gipio tair wiced yr un – fe allai Lloegr yn hawdd iawn fod wedi sgorio mwy oni bai am fowlio tynn ar adegau.

Er i’r capten Kane Williamson daro 87 i Seland Newydd, roedd eu batwyr wedi tangyflawni ar y cyfan. Cipiodd Liam Plunkett bedair wiced am 55, ac roedd dwy wiced yr un i Jake Ball ac Adil Rashid wrth iddyn nhw fowlio Seland Newydd allan am 223 i sicrhau eu lle ymhlith y pedwar olaf.

Batiad Lloegr

Wyth pelawd yn unig gymerodd hi i Seland Newydd gipio’u wiced gyntaf ar ôl galw’n gywir a gwahodd Lloegr i fatio’n gyntaf. Roedd Jason Roy ac Alex Hales wedi edrych yn hyderus yn y pelawdau cynnar cyn i Roy gael ei fowlio gan Adam Milne wrth geisio taro ergyd ar draws ei gorff, a Lloegr yn 37-1.

Cyrhaeddodd Alex Hales ei hanner canred – ei ail yn olynol yn y gystadleuaeth – oddi ar 60 o belenni, gan daro un chwech a thri phedwar ar y ffordd. Ond fe gollodd ei wiced yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Milne i ddod â phartneriaeth ail wiced o 81 gyda Joe Root i ben.

Chymerodd hi ddim yn hir i Seland Newydd gipio trydedd wiced, wrth i’r Gwyddel o gapten Eoin Morgan ergydio’n wyllt ar yr ochr agored a darganfod ymyl y bat oddi ar fowlio Corey Anderson, gan gynnig daliad syml i’r wicedwr Luke Ronchi, a’r cyfanswm yn 134-3 yn y pumed pelawd ar hugain.

Cyrhaeddodd Joe Root ei hanner canred bron yn syth ar ôl y wiced, gan ychwanegu carreg filltir arall at ei ganred yn erbyn Bangladesh yng ngêm gynta’r gystadleuaeth. Ychwanegodd e 54 gyda Ben Stokes am y bedwaredd wiced cyn cael ei fowlio gan Corey Anderson am 64, a Lloegr yn 188-4.

Fe ddiflannodd gobeithion Lloegr o gael cyfanswm eithriadol o uchel wrth iddyn nhw golli Ben Stokes, y batiwr yn cael ei ddal gan y trydydd dyn Adam Milne oddi ar fowlio Trent Boult am 48, a Lloegr yn ei chael hi’n anodd sgorio ar 210-5 ym mhelawd rhif 38.

Dim ond 20 ychwanegodd Jos Buttler a Moeen Ali cyn i Ali gael ei ddal yn acrobataidd gan Boult ar ymyl y cylch wrth geisio tynnu Corey Anderson, a Lloegr yn edrych yn llai tebygol o gyrraedd 300 ar 230-6 ym mhelawd rhif 41.

Ychwanegodd Adil Rashid a Jos Buttler 30 am yr wythfed wiced cyn i’r troellwr llaw chwith Mitchell Santner ganfod coes Rashid o flaen y wiced am 12, a Lloegr yn 260-7 ym mhelawd rhif 44. Ychwanegodd Liam Plunkett a Jos Buttler 49 am yr wythfed wiced i sicrhau bod Lloegr yn mynd y tu hwnt i 300 ond fe gollodd Plunkett ei wiced wrth iddo gael ei ddal gan Tim Southee oddi ar fowlio Milne am 15. Cipiodd Southee ddwy wiced mewn dwy belen gyda Mark Wood yn cael ei ddal gan Ross Taylor, a Jake Ball yn cael ei ddal gan Trent Boult, a Lloegr i gyd allan am 310.

Gorffennodd Adam Milne a Corey Anderson gyda thair wiced yr un, ac roedd dwy wiced i Tim Southee, gydag un yr un i Trent Boult a Mitchell Santner, ac fe orffennodd Jos Buttler heb fod allan ar 61.

Batiad Seland Newydd

Wrth gwrso nod o 311 am y fuddugoliaeth, dechreuodd Seland Newydd eu batiad yn y modd gwaethaf posibl, wrth i Luke Ronchi gael ei fowlio gan Jake Ball oddi ar bedwaredd pelen y batiad heb sgorio.

Daeth Kane Williamson a Martin Guptill, dau o sêr Seland Newydd ynghyd ac adeiladu partneriaeth gadarn o 62. Ond daeth wiced fawr i Loegr wrth i Guptill gam-ergydio i ddwylo Joe Root yn y gyli oddi ar fowlio Ben Stokes am 27, a Seland Newydd yn 63-2 yn y bedwaredd pelawd ar ddeg. Wrth i Seland Newydd ddechrau ail-adeiladu ar ôl y wiced, tarodd Kane Williamson ei bumed hanner canred undydd o’r bron yn erbyn Lloegr.

Erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, roedd Seland Newydd wedi cyrraedd 134-2, un rhediad y tu ôl i gyfanswm Lloegr ar yr un adeg ond wedi colli un wiced yn llai. Aeth Kane Williamson ymlaen i daro 87 mewn partneriaeth o 95 gyda Ross Taylor cyn cael ei dwyllo gan belen fer gan Mark Wood, ac fe wyrodd y bêl i fenyg y wicedwr Jos Buttler gyda’r cyfanswm yn 158-3. Dilynodd Ross Taylor yn fuan wedyn am 39, wedi’i ddal gan Joe Root wrth dynnu pelen fer gan Jake Ball, a’r sgôr yn 168-4.

Roedd Seland Newydd ar 191 pan gollon nhw eu pumed wiced, wrth i Jimmy Neesham geisio tynnu am ail chwech yn olynol, ond fe wnaeth e ganfod dwylo diogel Joe Root ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Liam Plunkett. Dilynodd Neil Broom yn dynn ar ei sodlau, wrth i’r troellwr coes Adil Rashid ganfod ei goes o flaen y wiced, a Seland Newydd yn 194-6.

Cwympodd y seithfed wiced oddi ar belen lydan, wrth i Mitchell Santner gael ei stympio gan Jos Buttler i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Rashid, a’r sgôr yn 205-7 ym mhelawd rhif 42. Cwympodd yr wythfed wiced chwe rhediad yn ddiweddarach wrth i Corey Anderson daro’r bêl i lawr corn gwddf Alex Hales am ei ail ddaliad, oddi ar fowlio Liam Plunkett.

Cwympodd y nawfed wiced ar 223 wrth i Adam Milne yrru’r bêl yn syth at Adil Rashid oddi ar fowlio Plunkett, ac fe gipiodd ei bedwaredd wiced a’r fuddugoliaeth i’w dîm wrth i Jason Roy ddal Tim Southee, a Seland Newydd yn 223 i gyd allan.

*Mae Seland Newydd yn aros i glywed a fyddan nhw’n cael eu cosbi am gyfradd fowlio araf, gyda batiad Lloegr wedi para bron i bedair awr.