Chris Cooke (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Bydd Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham ar gae San Helen yn Abertawe heddiw.
Roedd y Cymry’n 225-6, ar ei hôl hi o 117 o rediadau yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.
Sesiwn y prynhawn
Oherwydd y glaw a golau gwael, doedd dim criced cyn cinio fore ddoe, ond pan ddechreuodd y gêm am 2.30pm, roedd yr agorwyr Jacques Rudolph a Nick Selman yn barod i ymosod, gan gyrraedd 23-0 o fewn tair pelawd.
Ond newidiodd y cyfan pan chwaraeodd Nick Selman ergyd rydd i gyfeiriad Cameron Steel ar yr ochr agored oddi ar fowlio Chris Rushworth, ac roedd Morgannwg yn 28-1 yn gynnar iawn. Doedd Nick Selman ddim wedi gallu ailadrodd ei berfformiad campus ar gae San Helen y llynedd, pan gariodd e ei fat am 122 yn erbyn Swydd Northampton, y batiwr cyntaf i wneud hynny i Forgannwg ers Matthew Elliott yn 2004.
Collodd Morgannwg ail wiced yn fuan iawn wedyn, wrth i Jacques Rudolph ddarganfod dwylo diogel Paul Collingwood yn y slip ac roedd y Cymry’n 39-2. Roedd angen 39 o rediadau ar Colin Ingram i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau y tymor hwn, ond fe gollodd ei wiced 21 o rediadau’n brin o’r nod, wrth i Paul Collingwood sicrhau ail ddaliad yn y slip oddi ar fowlio Paul Coughlon am 18, a Morgannwg yn 76-3.
Daeth peth sefydlogrwydd wrth i Aneurin Donald a Will Bragg ddod ynghyd, cyn i Bragg daro’r bêl yn ddiangen i’r awyr oddi ar fowlio James Weighell, ac roedd Morgannwg mewn trafferthion unwaith eto yn 92-4.
Daeth David Lloyd o fewn trwch blewyn o golli ei wiced oddi ar ei drydedd pêl, ond doedd Ryan Pringle yn y slip ddim wedi gallu dal ei afael ar y bêl.
Y sesiwn olaf
Ar ôl cyfyngu Morgannwg i 112-4 erbyn amser te, cymerodd hi ddeg pelen yn unig i Swydd Durham gipio pumed wiced, wrth i David Lloyd gael ei ddal gan Paul Collingwood oddi ar fowlio Paul Coughlin am 16.
Roedd Aneurin Donald wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 74 o belenni cyn i ddaliad campus ag un llaw gan Keaton Jennings ddod â phartneriaeth o 42 i ben, wrth i Forgannwg gyrraedd 167-6.
Ymunodd Andrew Salter (15 heb fod allan) â Chris Cooke (63 heb fod allan) wrth y llain ac fe adeiladon nhw bartneriaeth ddi-guro o 58 ar ôl i Cooke gyrraedd ei hanner canred oddi ar 83 o belenni i gynnig peth gobaith i Forgannwg.