Morgannwg fydd yn batio pan fydd y criced yn dechrau ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham ar gae San Helen yn Abertawe.
Ond roedd golau gwael a glaw yn cadw’r chwaraewyr oddi ar y cae am 11 o’r gloch pan oedd y gêm i fod i ddechrau, ac felly dydy Morgannwg ddim wedi gallu dechrau eu batiad cyntaf wrth ymateb i 342 yr ymwelwyr.
Roedd yn ben-blwydd i’w gofio i gapten Swydd Durham, Paul Collingwood ddoe wrth iddo ddathlu troi’n 41 gyda 127 oddi ar 174 o belenni i achub ei dîm ar ôl dechrau siomedig i’r gêm yn y sesiwn gyntaf.
Roedd yn ddiwrnod i’w gofio hefyd i gapten newydd Morgannwg, Michael Hogan, a gipiodd dair wiced mewn pedair pelen tua diwedd y dydd wrth iddo orffen gyda phum wiced am 49.
Sesiwn y bore
Collodd yr ymwelwyr ddwy wiced yn ystod wyth pelawd cynta’r gêm, gan gynnwys eu seren o fatiwr, Keaton Jennings a gafodd ei fowlio gan Marchant de Lange am bedwar yn y pumed pelawd. Dilynodd Stephen Cook yn fuan wedyn, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten ddarganfod ei goes o flaen y wiced, a Swydd Durham yn 17-2.
Fe fyddai Michael Hogan wedi teimlo’n siomedig pan gollodd y dafl, ond roedd dechrau gwael yr ymwelwyr yn golygu eu bod nhw’n 92-2 erbyn amser cinio ar ôl methu â manteisio ar lain fatio dda, er i Graham Clark a Cameron Steel adeiladu partneriaeth o 86 am y drydedd wiced wrth iddyn nhw geisio ail-adeiladu’r batiad.
Sesiwn y prynhawn
Adeiladu hefyd oedd y gair allweddol i Forgannwg wrth iddyn nhw adeiladu ar eu llwyddiant cynnar ar ôl amser cinio, wrth i Graham Clark golli ei wiced i ddaliad campus gan Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r ymwelwyr wedi llithro i 103-3.
Cyrhaeddodd Cameron Steel ei hanner canred oddi ar 134 o belenni wrth iddo fe daro saith pedwar, ond roedd llygaid y cefnogwyr ar Paul Collingwood, oedd wedi cyrraedd 30 erbyn i’w bartner gyrraedd ei garreg filltir, ar ôl taro chwe phedwar i bob rhan o’r cae.
Daeth partneriaeth ddefnyddiol o 60 i ben pan gipiodd Nick Selman ail ddaliad yn y slip oddi ar Michael Hogan i gipio wiced Cameron Steel am 59, a’r ymwelwyr yn 163-4 ar ôl 56 o belawdau.
Dair pelawd yn ddiweddarach, collodd Swydd Durham eu pumed wiced wrth i Ryan Pringle gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar Marchant de Lange am bump, a’r ymwelwyr mewn trafferthion unwaith eto yn 169-5.
Erbyn amser te, roedd Swydd Durham yn 183-5 a’r capten wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 100 o belenni ychydig wedi’r egwyl.
Y sesiwn olaf
Roedd partneriaeth o 91 rhwng Paul Collingwood a Paul Coughlin wedi rhoi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyrraedd cyfanswm parchus wrth iddyn nhw ennill ail bwynt batio. Ond daeth y bartneriaeth i ben pan oedd coes Paul Coughlin o flaen y wiced oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 31, a’r ymwelwyr yn 260-6.
Aeth Paul Collingwood ymlaen i gyrraedd ei ganred oddi ar 158 o belenni, ac roedd e wedi taro 17 pedwar ar ei ffordd i 127 cyn i’w goes gael ei darganfod o flaen y wiced gan y troellwr Andrew Salter.
Cwympodd yr wythfed wiced wrth i Stuart Poynter gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am 38, a Swydd Durham yn 342-8. Daeth ail wiced yn y belawd i’r bowliwr wrth iddo fowlio George Harding oddi ar ei ail belen ac fe gipiodd e drydedd wiced o fewn pedair pelen – a phedair wiced mewn saith pelen – pan gafodd Chris Rushworth ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar belen ola’r dydd.