Daeth gêm gyntaf tymor criced dosbarth cyntaf Morgannwg yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC i ben yn gyfartal y prynhawn yma.
Tarodd y capten Jacques Rudolph 142 ar ôl i Forgannwg gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, a sgorio 342-7 cyn cau’r batiad.
Roedd cyfraniadau gwerthfawr gan sawl un o’r wyth Cymro yn nhîm Morgannwg, gan gynnwys Aneurin Donald (63) a David Lloyd (35).
Roedd cyfnodau sylweddol o law dros y tridiau’n golygu mai ychydig iawn o griced oedd yn bosib, ac roedd y myfyrwyr hanner ffordd yn unig trwy eu batiad cyntaf pan ddaeth y gêm i ben.
Roedden nhw wedi cyrraedd 149-5 erbyn diwedd y gêm, a’r batiwr Jeremy Lawlor, un o chwaraewyr Morgannwg, wedi sgorio hanner cant heb fod allan.
Roedd dwy wiced yr un i David Lloyd o Lanelwy, a’r bowliwr cyflym Michael Hogan, a wiced hefyd i Craig Meschede.
Mae tymor y siroedd yn dechrau’n swyddogol i Forgannwg ddydd Gwener nesaf wrth iddyn nhw deithio i Swydd Northampton ar gyfer gêm pedwar diwrnod ym Mhencampwriaeth y Siroedd.