Cafodd plac ei ddadorchuddio yn ystod yr wythnos i nodi cyfraniad criced i'r cae hanesyddol yn Abertawe
Mae Llywydd Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones wedi dweud ei fod yn siomedig gyda chanlyniadau’r tîm yn San Helen dros yr wythnos ddiwethaf.

Fel rhan o Ŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru, sy’n cael ei threfnu’n flynyddol gan glwb cefnogwyr Orielwyr San Helen, croesawodd Morgannwg Swydd Hampshire i’r ddinas am gêm undydd 50 pelawd ddydd Sul diwethaf, cyn herio Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn.

Collodd Morgannwg y ddwy gêm.

Maen nhw eisoes allan o gwpan 50 pelawd Royal London, a dim ond un gêm Bencampwriaeth maen nhw wedi’i hennill y tymor hwn.

Eu hunig obaith bellach o adfer rhywfaint o hunanbarch y tymor hwn yw’r ornest yn rownd wyth ola’r T20 Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, pan fyddan nhw’n croesawu Swydd Efrog i’r Swalec SSE yng Nghaerdydd nos Iau.

Ond roedd awgrym cryf dros yr wythnos ddiwethaf fod y dyfodol yn ddisglair i Forgannwg, ar ôl i’r bowliwr cyflym 19 oed o Bontarddulais, Lukas Carey gipio saith wiced yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n holi Alan Jones.