Bydd Morgannwg yn cynnal gêm dosbarth cyntaf yng Nghasnewydd ddydd Gwener am y tro cyntaf ers 1990, wrth iddyn nhw groesawu Pacistan A i Barc Spytty.

Hon hefyd fydd eu gêm gyntaf yn erbyn tîm rhyngwladol ers yr ornest yn erbyn India’r Gorllewin A yng Nghaerdydd yn 2010, a’u trydedd gêm Rhestr A yn erbyn tîm rhyngwladol yn dilyn y gemau yn erbyn Sri Lanca A yng Nghaergydd yn 2004 ac India’r Gorllewin A yng Nglyn Ebwy yn 2006.

Cyn hynny, roedd Morgannwg hefyd wedi cynnal gemau yn erbyn tîm Chwaraewyr Ifainc Awstralia (Y Gnoll, Castell-nedd, 1995), De Affrica A (Gerddi Sophia, Caerdydd, 1996), India A (San Helen, Abertawe, 2003) a Sri Lanca A (San Helen, Abertawe, 2004) a Bangladesh A (Y Fenni, 2005).

Roedd Morgannwg yn arfer cynnal gemau dosbarth cyntaf yn Rodney Parade ar ôl iddyn nhw uno â Sir Fynwy yn 1935, ond fe ddaeth hynny i ben yn 1965.

Roedd gemau achlysurol yng Nghasnewydd wedi hynny, ond fe symudodd Clwb Criced Casnewydd o Rodney Parade i Barc Spytty yn ddiweddarach, lle cafodd cyfleusterau newydd eu datblygu.

Bu Parc Spytty yn gartref rheolaidd i ail dîm Morgannwg ers 1997, ac i Siroedd Llai Cymru ers 1998. Mae gemau Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Academi Morgannwg, Academi Cymru a thimau ieuenctid Cymru hefyd wedi cael eu cynnal yno dros y blynyddoedd diwethaf.

Adeg Tlws Pencampwyr yr ICC yn 2013, roedd y cae yn ganolfan i nifer o dimau rhyngwladol wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Y gêm

Gêm 50 pelawd fydd hi rhwng Morgannwg a Phacistan A ddydd Gwener (10.30yb), ac fe fydd y batiwr agoriadol o Gasnewydd, Will Bragg yn arwain y tîm am y tro cyntaf wrth i’r sir roi cyfle i’r chwaraewyr profiadol orffwys ac i’r chwaraewyr ifainc ddangos eu gwerth.

Mae’r garfan hefyd yn cynnwys y batwyr agoriadol Nick Selman a James Kettleborough a’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith, ond fe fydd yr Albanwr yn cael prawf ffitrwydd ar ei gefn cyn yr ornest.

Mae cyfle hefyd i’r bowlwyr Jack Murphy a Dewi Penrhyn Jones, ac i’r batiwr Jeremy Lawlor.

Mae’n bosib hefyd y bydd y wicedwr Cameron Herring yn gwisgo crys Morgannwg am y tro cyntaf ers iddo symud o Swydd Gaerloyw, ac fe allai Lukas Carey gael ei ddewis am y tro cyntaf hefyd.

Carfan Morgannwg: W Bragg (capten), J Kettleborough, N Selman, T Smith, K Carlson, J Lawlor, A Salter, O Morgan, J Murphy, R Smith, D Penrhyn Jones, C Herring, L Carey

Carfan Pacistan A: Sharjeel Khan, Bilawal Bhatti, Fakhar Zaman, Saud Shakeel, Abdul Rehman Muzammil, Mir Hamza, Azizullah, Shadab Khan, Babar Azam (capten), Mohammad Nawaz, Jahid Shaukat, Umar Siddiq, Hasan Ali, Mohammad Abbas, Mohammad Asghar, Mohammad Hasan