Collodd Morgannwg o 25 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Southampton nos Iau.

Ond maen nhw’n dal i fod yn yr ail safle dau bwynt y tu ôl i Swydd Gaerloyw, sydd wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Cymry.

Y pedwar uchaf sy’n mynd drwodd o’r ddwy gynghrair i rownd yr wyth olaf.

Cafodd y Saeson eu gwahodd i fatio’n gyntaf ac fe darodd Liam Dawson 76 wrth i Swydd Hampshire gyrraedd 167-6 yn eu hugain pelawd.

Yn ddiweddarach yn y batiad, tarodd y chwaraewr ifanc Joe Weatherley 43.

Graham Wagg oedd bowliwr gorau Morgannwg wrth iddo gipio tair wiced am 38 yn ei bedair pelawd, ac roedd dwy wiced hefyd i Michael Hogan.

Ond wrth gwrso nod o 168 am y fuddugoliaeth, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion o’r cychwyn cyntaf, wrth iddyn nhw lithro i 78-5 o fewn 12 pelawd.

Daeth rhywfaint o sefydlogrwydd i’r batiad wrth i Wagg a Craig Meschede adeiladu partneriaeth o 30 am y chweched wiced ond doedd hynny ddim yn ddigon i gyrraedd y nod yn y pen draw, wrth iddyn nhw orffen ar 142-7.

Mae’r canlyniad bellach yn golygu bod gan Forgannwg dair gêm yn weddill i gyrraedd yr wyth olaf, ac mae’n debygol fod angen dwy fuddugoliaeth arnyn nhw i sicrhau eu lle.