Gwnaeth Morgannwg ymestyn eu rhediad di-guro yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast i saith gêm nos Iau wrth iddyn nhw guro Swydd Sussex o 46 rhediad yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, sgoriodd y Cymry 159-8 wrth i David Lloyd, un o chwaraewyr gorau’r sir y tymor hwn, daro 81 oddi ar 55 o belenni, gan gynnwys 11 pedwar a dau chwech.

Roedd yn goron ar wythnos lwyddiannus i’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy yn dilyn ei ganred yn y Bencampwriaeth yn erbyn yr un gwrthwynebwyr – ond ar gae gwahanol – ddydd Mercher.

Y seren ymhlith yr ymwelwyr oedd y bowliwr cyflym o Sri Lanca Nuwan Kulasekara, a gipiodd bedair wiced am 28 oddi ar ei bedair pelawd, ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal y llif rhediadau – dim ond bowlio tynn gan fowlwyr Lloegr, Chris Jordan a Tymal Mills ym mhelawdau ola’r belawd wnaeth hynny.

Ond wrth ymateb, roedd batiad yr ymwelwyr ar ben cyn iddo ddechrau go iawn, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio tair wiced mewn tair pelawd a Swydd Sussex yn llithro i 22-3 ar ôl saith pelawd.

Parhau i gwympo wnaeth y wicedi, ac fe orffennodd van der Gugten gyda phedair wiced am 17, wrth i Graham Wagg, Michael Hogan a Craig Meschede rannu’r wicedi eraill yn hafal rhyngddyn nhw, a’r ymwelwyr wedi’u bowlio allan am 113.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Timm van der Gugten: “Mae pawb yn y tîm yn gwybod beth yw eu rôl, mae gan bawb gynllun syml ar gyfer y gêm ac ry’n ni’n trio cadw ato fe hyd eitha’n gallu ni ar hyn o bryd.

“Dywedodd David Lloyd, wnaeth fatio’n wych, tasech chi’n bowlio’n llydan y byddai hi’n eitha hawdd felly fel uned fowlio, wnaethon ni drio bowlio mor dynn â phosib ac roedd hynny fel pe bai wedi gweithio.”